Ni fydd Llafur Cymru'n cefnogi Corbyn ar gytundeb Brexit

  • Cyhoeddwyd
Jeremy Miles
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jeremy Miles y byddai Llafur Cymru yn cefnogi aros mewn unrhyw refferendwm

Ni fyddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi unrhyw gytundeb Brexit fyddai'n cael ei gytuno gan Jeremy Corbyn petai'n brif weinidog, yn ôl gweinidog Brexit Cymru.

Dywedodd Jeremy Miles y byddai Llywodraeth Cymru'n ymgyrchu dros aros yn yr UE mewn unrhyw refferendwm pellach ar y mater.

Dywedodd AS Gogledd Caerdydd, Anna McMorrin bod angen i'r Blaid Lafur Brydeinig "ddal i fyny gyda Chymru" a chefnogi aros.

Daw wrth i'r blaid gynnal pleidlais ar safbwynt Brexit yr aelodau yn eu cynhadledd yn Brighton.

'Aros yn well'

Ar raglen Wales Live y BBC, dywedodd Mr Miles bod parhau yn yr UE yn "well nag unrhyw fersiwn o adael yr Undeb Ewropeaidd".

Pan ofynnwyd a fyddai'n gwrthod cefnogi cytundebau fel sydd gan Norwy neu Canada gyda'r undeb, dywedodd: "Rydyn ni wedi bod yn glir bod aros yn well nag unrhyw fersiwn o adael yr Undeb Ewropeaidd.

"Bydde' ni'n ymgyrchu i aros."

Yn siarad yn y gynhadledd yn Brighton, dywedodd Ms McMorrin bod Llafur Cymru wedi bod yn "glir iawn, iawn ein bod ni angen rhoi'r penderfyniad terfynol i'r bobl".

"Mewn unrhyw refferendwm byddwn ni'n ymgyrchu i aros.

"Dyna dwi wedi bod yn ei ddweud ers llawer o flynyddoedd ers y refferendwm, a dwi'n meddwl bod angen i Loegr, ac yn y bôn Llafur y DU, ddal i fyny gyda Chymru."

Dywedodd yr AS Ceidwadol David Davies, sy'n cefnogi Brexit, bod safbwynt Llafur yn "eithriadol".

"Heb sôn am yr hyn mae Llafur Cymru eisiau, mae'n rhaid bod Llafur y DU wedi mwynhau'r pedair blynedd diwethaf gymaint eu bod eisiau gwneud yr holl beth eto."

Ddydd Sul, fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford gadarnhau ei gefnogaeth am ymgyrchu i aros yn yr UE petai refferendwm arall neu etholiad cyffredinol.

Mae hynny'n mynd yn erbyn safbwynt swyddogol Plaid Lafur y DU ar Brexit, gyda Mr Corbyn yn dweud y bydd Llafur yn cefnogi'r opsiwn y mae etholwyr yn ei ddewis mewn refferendwm, os ydy'r blaid mewn grym.

Bydd Llafur yn pleidleisio ar y mater yn ddiweddarach ddydd Llun.