Delweddau Sala: Carcharu dau berson

  • Cyhoeddwyd
Christopher Ashford a Sherry BrayFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Christopher Ashford a Sherry Bray

Mae dau berson wedi cael eu carcharu am ddefnydd anghyfreithlon o ddeunydd camera cylch cyfyng o archwiliad post-mortem y pêl-droediwr Emiliano Sala.

Cafodd y ddau eu harestio ar ôl i luniau ymddangos ar wefan Twitter.

Penderfynodd llys fod Sherry Bray, 49 oed, rheolwr cwmni camera cylch cyfyng, ac un o weithwyr y cwmni, Christopher Ashford, 62, wedi cael mynediad anghyfreithlon i luniau o gorff y pêl-droediwr.

Bu farw Sala a'r peilot David Ibbotson mewn damwain awyren dros Fôr Urdd ar 21 Ionawr.

Roedd Sala newydd ymuno â Chaerdydd o Nantes am ffi o £15m - y swm mwyaf yn hanes Caerdydd - ond bu farw ar y daith o Ffrainc cyn chwarae'r un gêm i'w glwb newydd.

Dywedodd y barnwr Peter Dixon Crabtree yn Llys y Goron Swindon mai "diddordeb mewn marwolaeth' oedd tu cefn i'r troseddau.

Ychwanegodd fod yna ddiwylliant o fewn y cwmni lle'r oedd staff yn gwylio archwiliadau ost mortem heb fod "cyfiawnhad i wneud hynny".

Cafodd Bray ei charcharu am 14 mis ac Ashford am bum mis.

Ffynhonnell y llun, Getty Images