Pryder am effaith toriadau ar gynllun nofio am ddim

  • Cyhoeddwyd
Pwll nofio Harlech
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bosib na fydd pwll nofio Harlech yn gallu cynnig sesiynau am ddim yn y dyfodol

Mae pryder yng Ngwynedd y bydd torri 'nôl ar yr oriau nofio am ddim i bobl dros 60 oed yn cael effaith andwyol ar eu hiechyd.

Mae'r grant mae Cyngor Gwynedd yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru drwy law Chwaraeon Cymru ar gyfer nofio am ddim yn cael ei haneru o £80,000 i £40,000.

O 1 Hydref ymlaen, un sesiwn nofio am ddim yr wythnos fydd ar gael yn y canolfannau sy'n cael eu rhedeg gan gwmni Byw'n Iach.

Mae'r grantiau yn cael eu cwtogi i gynghorau ar hyd a lled Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod adolygiad annibynnol wedi dangos fod parhau â'r cynllun yn ei ffurf bresennol ddim yn opsiwn.

'Cwsmeriaid yn siomedig'

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Byw'n Iach, Amanda Davies: "Yn draddodiadol roedd pobl dros 60 oed yn cael mynediad at sesiynau nofio am ddim yn ystod unrhyw adegau nofio cyhoeddus yn ein pyllau ni yn ystod tymor ysgol.

"O 1 Hydref ymlaen, oherwydd y cwtogiad yn y gyllideb, un sesiwn yn unig yr wythnos fyddwn ni'n medru cynnig ym mhob pwll nofio yng Ngwynedd.

"Mae cwsmeriaid yn siomedig iawn ac yn ofni bod y newid yn effeithio ar eu hiechyd nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Amanda Davies y gallai torri 'nôl ar nofio am ddim gael effaith gymdeithasol hefyd

Cwmni cymunedol Hamdden Harlech ac Ardudwy sy'n rhedeg pwll nofio Harlech.

Maen nhw wedi bod yn derbyn arian grant o £3,000 y flwyddyn i roi cyfnodau nofio am ddim tair gwaith yr wythnos i bobl dros 60 oed.

Nawr mae'r grant yn cael ei dorri i'w hanner, a bydd gan y cwmni cymunedol benderfyniadau anodd i'w gwneud.

Hyd yn oed cyn i'r grant gael ei dorri doedd yr arian ddim yn ddigon i ddelio â'u costau.

'Help mawr'

Dywedodd Dylan Hughes o'r cwmni cymunedol: "Mae'n costio rhyw £50 yr awr i redeg y pwll nofio, a dydy'r grant 'da ni'n ei gael ddim yn cyfro hwnna o gwbl."

Maen nhw nawr yn ystyried a fyddan nhw'n gallu hyd yn oed rhoi un sesiwn nofio am ddim y rai dros 60 oed.

"Bydd rhaid i ni edrych arno fo fel bwrdd," meddai Mr Hughes.

"'Da ni'n mynd i gyfarfod wythnos yma i edrych beth ydy'r peth gorau i'w wneud."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dylan Hughes bod y grant ddim yn ddigon i ddelio â'u costau

Un sy'n defnyddio sesiynau nofio am ddim pwll nofio Harlech yn gyson ydy Martin Hughes, sydd â phroblemau iechyd.

Dywedodd ei fod yn credu fod nofio yn bwysig iawn i'w iechyd.

"Dwi'n cario gormod o bwysau a dwi'n trio dod yma dwy neu dair gwaith yr wythnos," meddai.

"Mae nofio am ddim yn help i fi ddod yma a dwi'n siŵr bod o'n help mawr i bobl eraill hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sesiynau am ddim yn "help mawr" i bobl aros yn weithgar

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r fenter Nofio am Ddim wedi gweld rhai llwyddiannau sylweddol ers iddi ddechrau, ond yn ôl adolygiad annibynnol diweddar nid yw parhau â hi yn ei ffurf bresennol yn opsiwn.

"Dangosodd yr adolygiad nad oedd y trefniadau presennol yn addas i'r diben, ac nad oedden nhw'n rhoi gwerth da am arian - yn ôl amcangyfrifon tua £1.5m yn unig a oedd yn cael ei ddefnyddio i ddarparu'r cynllun mewn gwirionedd.

"Roedd hefyd yn dangos gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl yn y grŵp 16 mlwydd oed neu'n iau a oedd yn cymryd rhan, a dim ond 6% o'r garfan 60 mlwydd oed neu'n hŷn a oedd wedi manteisio ar y cynllun.

"O ganlyniad, cytunwyd y byddai pob awdurdod lleol yn cyflwyno cynlluniau diwygiedig ar gyfer darparu'r cynllun - gyda phob un ohonyn nhw'n cynnwys elfen o nofio am ddim.

"Ar hyn o bryd mae Chwaraeon Cymru'n craffu ar y cynlluniau hyn, gyda'r bwriad o'u rhoi nhw ar waith ym mis Hydref."