'Dau newydd yn dod â hiwmor a phrofiad i garfan Cymru'
- Cyhoeddwyd
Ail wythnos y gystadleuaeth, ail wythnos chwerw-felys i Gymru.
Profiad chwerw oedd ffarwelio ag ail aelod o'r garfan, a doedd neb yn teimlo'r chwerwder yn fwy na Cory Hill.
Er gwaethaf pob ymdrech i wella o'r anaf i'w droed, roedd yn rhaid iddo ddychwelyd adre heb brofi'r un eiliad o chwarae yng Nghwpan y Byd.
Bydd aros pedair blynedd arall i geisio gwneud yn teimlo fel oes i glo anlwcus y Dreigiau.
Melys iawn oedd ennill y gêm gynta gyda phwynt bonws, heb anafiadau, gan ddangos eiliadau o wir safon a sgil.
Melys hefyd oedd gweld y bwlch a adawyd o golli dau aelod yn cael ei lenwi gan ddau hoffus, brwdfrydig sy'n gallu dod â hiwmor yn ogystal â phrofiad i'r garfan.
Efallai bod dylanwad Stephen Jones eisoes i'w weld yn chwarae ymosodol Cymru, ac er mai ond ychwanegu'i bwysau ar y cae ymarfer mae Bradley Davies hyd yn hyn, bydd presenoldeb y ddau a'u gwen barod oddi ar y cae hefyd yn bwysig pan fydd y pwysau'n cynyddu wrth i'r gystadleuaeth fynd yn ei blaen.
Ond efallai nad yw'r pwysau hwnnw mor drwm erbyn hyn, ar ôl i Uruguay wneud ffafr anferth â Chymru drwy guro Fiji yn un o'r canlyniadau mwyaf annisgwyl yn hanes y gystadleuaeth.
Mae Cymru nawr yn gwybod bod eu tynged yn eu dwylo nhw'u hunain.
Byddai curo Awstralia yn Tokyo ddydd Sul yn gam anferth tuag at rownd yr wyth olaf ac yn golygu llwybr haws wedi hynny.
Fe lwyddodd Cymru i drechu'r Wallabies y tro diwetha' iddyn nhw gwrdd yn hydref y llynedd, ac er bod yr amgylchiadau'n hollol wahanol a gymaint fwy yn y fantol, fe all Cymru gymryd llawer yn seicolegol o'r fuddugoliaeth.
Yn wahanol i Twickenham yng Nghwpan y Byd 2015, fe all y profiad yn erbyn Awstralia yn Tokyo tro hyn fod yn un melys iawn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2019
- Cyhoeddwyd23 Medi 2019
- Cyhoeddwyd4 Medi 2019