Adnewyddu Cofeb y Dywysoges Gwenllian yn Sir Lincoln
- Cyhoeddwyd
Mae rhan o gofeb i'r Dywysoges Gwenllïan - merch Llywelyn ein Llyw Olaf - yn Swydd Lincoln yn gorfod cael ei hail-osod, ar ôl iddi gael ei difrodi.
Mae Cymdeithas y Dywysoges Gwenllïan yn trefnu bod llechen newydd yn cael ei gosod ar y garreg ar dir Eglwys Sant Andreas yn Sempringham, ar ôl i'r difrod ddod i'r amlwg.
Yn ôl cadeirydd y Gymdeithas, Tecwyn Vaughan Jones, mae'n ymddangos bod rhywun wedi bod yn saethu pelenni at y llechen.
"Ond does dim tystiolaeth bod rhywbeth sinistr i'r difrod", meddai.
Mae'r Gymdeithas eisoes wedi cael cynnig llechen newydd.
Ail gofeb
Dywedodd eu bod wedi cysylltu â'r heddlu, ac yn gobeithio cael cyngor ganddyn nhw ynglŷn â chyflwyno mesurau i amddiffyn y garreg.
"Dydyn ni ddim eisiau rhoi llechen yn ôl a'i gweld yn cael ei difrodi eto," meddai Mr Jones.
Cafodd y gofeb gyntaf ei gosod i'r Dywysoges Gwenllïan yn nechrau'r nawdegau ond ar ôl iddi gael ei difrodi'n llwyr, ac fe gafodd cofeb fwy ei gosod yn ei lle yn 2001.
Mae cofeb arall iddi ar gopa'r Wyddfa, ac fe fu'n rhaid adnewyddu honno ar ôl iddi gael ei difrodi'r llynedd.
Cafodd Gwenllïan ei geni yng Ngarth Celyn, Abergwyngregyn ger Bangor ym mis Mehefin 1282, ond a hithau'n chwe mis oed cafodd ei thad, Llywelyn ap Gruffudd, ei ladd yng Nghilmeri.
Cafodd hi ei chludo i Swydd Lincoln gan luoedd Brenin Edward y cyntaf i leiandy Sempringham.
Bu farw yno ar y 7fed o Fehefin 1337 yn 54 oed.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2018