Pro 14: Ulster 38-14 Gweilch
- Cyhoeddwyd
![Dan Evans yn taclo Sean Reidy yn ystod yr hanner cyntaf](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/0E2E/production/_109003630_devansreidy.jpg)
Dan Evans yn taclo Sean Reidy yn ystod yr hanner cyntaf
Roedd yna gryn gyffro wrth i'r Gweilch wynebu'r Gwyddelod yn yn Stadiwm Kingspan, Belffast i chwarae gêm gyntaf y tymor ond Ulster oedd yn fuddugol wrth iddynt drechu'r Gweilch o 38 i 14.
Ar hanner amser roedd y sgôr yn 21-14 - hynny wedi tri chais (Craig Gilroy, Greg Jones, Matte Faddes) a throsi llwyddiannus (John Cooney) gan y Gwyddelod.
Roedd Daniel Evans o'r Gweilch hefyd wedi sicrhau cais ac er bod trosiad Luke Price yn aflwyddiannus fe sgoriodd naw pwynt yn yr hanner cyntaf drwy giciau cosb.
Yn yr ail hanner roedd yna gyfle i Cai Evans wneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Pro 14 wrth i Daniel Evans adael y cae.
Yn fuan fe wnaeth Ulster ymestyn eu sgôr i 31-14 drwy gic gosb Cooney, cais (Gilroy) a throsiad (Cooney) a chyn diwedd y gêm cais a throsiad llwyddiannus arall.
Yn y munudau olaf roedd hi'n ymddangos bod Matthew Aubrey wedi sicrhau cais i'r Gweilch ond cafodd ei wrthod gan y TMO.
Dim sgôr i'r Gweilch yn yr ail hanner felly ac i waethygu pethau roedd yna ddwy garden felen i Luke Morgan.
Y sgôr ar ddiwedd y gêm oedd 38-14 - buddugoliaeth gyfforddus i'r Gwyddelod.
Mae cystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan wedi cael cryn effaith ar dimau'r Pro14 - roedd y Gweilch heb ddeg o'i chwaraewyr nos Wener - wyth yng ngharfan Cymru ac mae Lesley Klim yn chwarae i Namibia a Ma'afu Fia i Tonga.
Dilynwch gêm Cymru yn erbyn Awstralia yng Nghwpan Rygbi'r Byd ar lif byw Cymru Fyw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2019
- Cyhoeddwyd20 Mai 2018
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2018