Corff Merthyr Tudful: Ymchwiliad heddlu yn parhau

  • Cyhoeddwyd
steven hodgesFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae'r heddlu ym Merthyr Tudful yn dal i ymchwilio i farwolaeth dyn 50 oed o ardal Cwmbrân.

Fe gafodd corff Steven Hodges ei ddarganfod gan aelod o'r cyhoedd am tua hanner dydd ar ddydd Sul, 8 Medi ar ddarn o dir ger Gwarchodfa Natur Taf Fechan.

Roedd côt camouflage gwyrdd a du a phar o esgidiau gwyn Reebok ar goll, a dydyn nhw byth wedi dod i'r fei.

Mae'r heddlu nawr yn apelio ar unrhyw un sydd wedi gweld yr eitemau yma i gysylltu â nhw.

Maen nhw hefyd yn apelio ar berson oedd yn gyrru ar yr A465 rhwng Cefn Coed a Dowlais rhwng hanner nos a 02:00 ar fore Sul 8 Medi, yn enwedig os wnaethon nhw weld dyn yn cerdded ar hyd y ffordd.

Dangosodd archwiliad post mortem fod Mr Hodges wedi marw o anafiadau i'w ben.

Mae dyn 37 oed o Ferthyr Tudful wedi cael ei holi mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.

Dylai unrhyw un all fod o gymorth ffonio'r heddlu ar 101 - neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111 - gan ddyfynnu'r cyfeirnod *331644.