'Dim system ddiogel' pan fu farw gweithwyr rheilffordd

  • Cyhoeddwyd
Gareth Delbridge a Michael LewisFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Gareth Delbridge (ch) a Michael Lewis yn y digwyddiad fis Gorffennaf

Doedd dim system ddiogel mewn grym pan gafodd dau weithiwr eu taro a'u lladd gan drên ym mis Gorffennaf, yn ôl adroddiad.

Bu farw Gareth Delbridge, 64, a Michael 'Spike' Lewis, 58, ar 3 Gorffennaf ar ôl cael eu taro ger Margam, Port Talbot.

Yn ôl adroddiad cychwynnol gan Network Rail a Great Western Railway roedd chwech aelod o staff yn gweithio ar y lein, mewn dau grŵp o dri.

Cafodd un person ei benodi i wylio am drenau, ond ni chafodd y person ei osod ar waith.

Roedd y rheilffordd yn agored i drenau tra bod y gweithwyr yno, ond roedd disgwyl i un person roi 30 eiliad o rybudd os oedd trên yn agosáu, meddai'r adroddiad.

Roedd y trên, o Abertawe i Paddington, yn teithio ar 70 mya pan gyrhaeddodd y gweithwyr, gan daro dau ac achosi sioc difrifol i drydydd.

Mae'r adroddiad yn dweud bod y tri yn gwisgo amddiffynwyr clustiau ar y pryd, ac nad oedden nhw wedi clywed gyrrwr y trên yn canu'r corn.

Yn ôl yr adroddiad, roedd y trydydd gweithiwr yn gorffen tynhau bollt pan darodd y trên Mr Delbridge, o Fynydd Cynffig, a Mr Lewis, o Ogledd Corneli.

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng gorsafoedd Y Pîl a Phen-y-bont

Dywedodd yr adroddiad ei fod yn "dderbyniol" bod grwpiau'n gweithio tua 20 llath oddi wrth ei gilydd, ond bod y gweithwyr yn yr achos yma tua 150 llath i ffwrdd.

Roedd hynny wedi cyfyngu ar y system ddiogel o weithio, meddai'r adroddiad, ond ychwanegodd bod y tîm yn credu eu bod yn gweithio yn y "ffordd fwyaf effeithiol".

Canu corn

Mae'r adroddiad yn nodi bod gyrrwr y trên wedi canu'r corn mewn tôn uchel-isel, cyn ei ganu dwywaith mewn tôn isel.

Yn ôl rheolau swyddogol dylai "cyfres o seiniau byr" gael eu defnyddio i rybuddio unrhyw un sydd ddim yn symud o lwybr y trên.

Disgrifiad o’r llun,

Y trên fu'n rhan o'r digwyddiad oedd gwasanaeth 09:29 o Abertawe i Paddington yn Llundain

Dywedodd yr adroddiad ei fod yn "ansicr" os byddai defnyddio cyfres o seiniau wedi rhoi rhybudd mwy amlwg i'r gweithwyr.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad hefyd bod y rheolwr diogelwch ar leoliad wedi ei "danseilio" gan y grŵp yn gwahanu'n ddau.

'Gwneud popeth y gallwn'

Cafodd yr adroddiad cychwynnol ei gyhoeddi ddydd Mawrth.

Dywedodd cyfarwyddwr diogelwch Network Rail na fyddai "unrhyw beth yn lleihau'r boen" o golli'r gweithwyr.

Ond ychwanegodd Martin Forbisher bod "deall beth aeth o'i le a dysgu o hynny yn gallu, dwi'n gobeithio, sicrhau'r rhai sydd wedi eu heffeithio y byddwn yn gwneud popeth y gallwn i'w atal rhag digwydd eto".