Rali GB Cymru'n 'hwb enfawr' i economi'r gogledd

  • Cyhoeddwyd
Rali LerpwlFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y rali'n dechrau o Lerpwl ddydd Iau - y tro cyntaf iddi ddechrau tu allan i Gymru ers 20 mlynedd

Bydd gyrwyr rali gorau'r byd yn sgrialu o amgylch gogledd a chanolbarth Cymru wrth i Rali GB Cymru ddychwelyd dros y dyddiau nesaf.

Fe fydd y digwyddiad yn dechrau o Lerpwl ddydd Iau - y tro cyntaf iddi ddechrau tu allan i Gymru ers 20 mlynedd, a phenderfyniad sydd wedi'i feirniadu gan rai.

Dyma fydd yr 20fed tro i'r digwyddiad, sy'n rhan o Bencampwriaeth Rali'r Byd, gael ei gynnal yng Nghymru.

Ond mae 'na ddyfalu mai dyma'r tro olaf i Gymru ei chynnal, gydag awgrym y gallai'r rali symud i Ogledd Iwerddon y flwyddyn nesaf, er bod gan Lywodraeth Cymru gytundeb i'w chynnal yma tan 2021.

Bydd y ras yn teithio dros 200 milltir trwy goedwigoedd gogledd a chanolbarth Cymru ddydd Gwener a dydd Sadwrn.

Fe fydd y ras 22 cymal yn gorffen yn Llandudno brynhawn Sul.

Disgrifiad,

Dywedodd Elfyn Evans gydag ychydig o lwc y gallai orffen ar gam ucha'r podiwm yn Rali GB Cymru

Mae pencadlys y ras eleni yn Llandudno, a dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Conwy fod y rali yn rhoi hwb economaidd fawr i'r ardal.

"Mae'r cyffro i'w deimlo ond mae o'n llawer mwy na'r cyffro," meddai'r cynghorydd Garffild Lloyd Lewis.

"Mae'r budd economaidd i'r ardal yn enfawr - rhyw £10m o incwm i'r ardal dros y cyfnod.

"Bydd 100,000 o bobl yn dod yma dros y pedwar diwrnod, mae 'na 6,000 o lefydd mewn gwestai ac ati wedi cael eu bwcio, felly mae'r ardrawiad economaidd i'r sir ac i'r ardal gyfan yn enfawr ac yn bwysig iawn."

'Cystal siawns ag unrhyw un'

Mae cefnogwyr y gamp yng Nghymru yn gobeithio y bydd Elfyn Evans o Ddinas Mawddwy yn llwyddo i ennill y rali am yr ail dro.

Yn fab i'r enwog Gwyndaf Evans, un sydd wedi dilyn ei yrfa o'r dechrau ydy'r cynghorydd John Pugh Roberts o Lanymawddwy.

Dywedodd Mr Roberts am ei obeithion i Elfyn eleni: "Dwi'n disgwyl y gwneith o'n reit dda.

"Mae o wedi colli tair rali oherwydd anaf, ond mae o'n reit hapus 'efo'r car felly mae ganddo gystal siawns ag unrhyw un i'w hennill hi."