Ymchwilio i gronfa ar-lein ffug wedi marwolaeth gweithiwr

  • Cyhoeddwyd
Justin DayFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Justin Day - "cefnogwr rygbi brwd" - ei fod wedi bod yn "edrych ymlaen yn eiddgar at Gwpan y Byd"

Mae'r BBC yn deall fod yr heddlu wedi dechrau ymchwiliad ar ôl i gronfa angladd ffug gael ei chreu ar-lein yn dilyn marwolaeth dyn yn ffatri Tata Steel.

Bu farw Justin Peter Day, 44 oed o Lansamlet yn Abertawe, ar ôl digwyddiad yn ymwneud â pheirianwaith yng ngwaith dur Port Talbot fis diwethaf.

Mae ffrind i deulu Mr Day wedi cysylltu â Heddlu'r De ar ôl i'r apêl ymddangos ar wefan GoGetFunding.

Mae Donna-Louise Jones yn credu mai dim ond £40 gafodd ei roi i'r gronfa ffug yma cyn i'r wefan gau ddyddiau wedi marwolaeth Mr Day ar 25 Medi.

Yn y cyfamser, mae Ms Jones wedi creu cronfa ar wefan GoFundMe i helpu teulu Mr Day, sydd bellach wedi casglu mwy na £7,600 gan dros 400 o bobl.

Dywedodd Heddlu De Cymru wrth BBC Cymru fod eu canolfan gwasanaeth cyhoeddus wedi rhoi cyngor ar yr apêl ffug.

Fe edrychodd Action Fraud - canolfan adrodd twyll cenedlaethol - i'r digwyddiad, ac ar ôl adolygu'r wybodaeth, mae'r heddlu bellach wedi cychwyn ymchwiliad.

'Hynod anodd i ganfod twyll'

Roedd gweddw Mr Day, Zoe, wedi bod yn rhybuddio pobl ar Facebook i beidio rhoi arian i'r gronfa ffug.

Dywedodd GoGetFunding eu bod yn gosod mesurau i ddelio â'r broblem o dwyllo ond ei bod hi'n "hynod anodd i ganfod pob ymgyrch ffug".

Mae yna ymchwiliad wedi ei lansio i farwolaeth Mr Day, a oedd yn gweithio i gontractwyr Mii Engineering, o Fedwas, Caerffili.

Mewn teyrnged yr wythnos diwethaf, dywed ei deulu ei fod yn "ddyn teuluol oedd yn caru ei deulu cymaint ac yn gweithio'n galed er mwyn sicrhau'r gorau i'w deulu".