'Tawelwch i dîm Cymru cyn y storm nesaf yn Japan'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Catrin Heledd yn holi Gareth Charles cyn Cymru v Fiji

Tawelwch wedi'r storm yw'r wythnos hon wedi bod i Gymru yn Japan.

Yn sicr mae bywyd yn Tokyo yn ferw gwyllt a dyna oedd y gêm yn erbyn Awstralia hefyd.

Corwynt o hanner gan Gymru o'r eiliad giciodd Dan Biggar y gôl adlam gyflyma' yn hanes y gystadleuaeth i'r eiliad y rhedodd Gareth Davies fel y gwynt am gais arall o ryng-gipiad - ei arbenigedd bellach.

Roedd yn rhaid i Gymru wrthsefyll ton ar ôl ton o ymosodiadau gan y Wallabies wedyn ond roedd dal 'mlaen am fuddugoliaeth yn dyst i'w cymeriad a'u ffitrwydd.

Ar ôl y fath ymdrech yn y gwres a'r lleithder llethol doedd dim rhyfedd eu bod wedi trefnu teithio ryw 300 milltir i ddinas Otsu ar gyfer ychydig ddyddiau i ymlacio.

A chredwch fi, mae Otsu dipyn tawelach na'r brifddinas!

Cwch pleser - mewn taranau!

Gyda phoblogaeth o ryw 350,000 o bobl mae bywyd bob dydd llawer mwy hamddenol ond storm dra gwahanol wynebodd Cymru ar ôl cyrraedd.

Wedi mynd gyda'r nos ar gwch pleser ar Lyn Biwa - y llyn mwyaf yn Japan - fe gafodd y tîm eu dal mewn storm o fellt a tharanau.

Gyda'r glaw yn tywallt a duwch y nos yn cael ei rhwygo gan fflach ar ôl fflach, roedd un neu ddau'n teimlo tipyn mwy nerfus nag oedden nhw yn Stadiwm Tokyo ddyddiau ynghynt!

Nawr maen nhw wedi ei throi hi am Oita a'r her nesa.

Disgrifiad,

McBryde: Taith ar long mewn storm yn brofiad

Y newyddion da yw bod Dan Biggar wedi dod drwy'r holl brofion meddygol ar ôl cael cnoc ar ei ben ddydd Sul ac y bydd e ar gael i wynebu Fiji ddydd Mercher.

Mae Cymru wedi dewis tîm cryf ar ôl i Fiji ddangos yn erbyn Georgia yn union gymaint o fygythiad maen nhw'n gallu bod.

Mae 'na deimlad o dawelwch cyn y storm nesa, ond mae 'na hyder tawel hefyd na fydd breuddwyd Cymru'n cael ei chwythu i ebargofiant fel ddigwyddodd yn Nantes yn 2007.

Dilynwch Cymru v Fiji ddydd Mercher, 9 Hydref ar Cymru Fyw gyda sylwebaeth lawn hefyd ar BBC Radio Cymru