Dau newid wrth i Gymru ddewis tîm cryf i wynebu Fiji
- Cyhoeddwyd
Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi ei dîm i wynebu Fiji yn Oita ddydd Mercher.
Mae'r prif hyfforddwr wedi dewis 15 cryf fel y disgwyl gan wneud dim ond dau newid i'r tîm gurodd Awstralia o 25-29 wythnos i ddydd Sul diwethaf.
Daw'r newidiadau yn y rheng-ôl gyda Ross Moriarty yn dechrau yn safle'r wythwr a James Davies yn camu i 'sgidiau Justin Tipuric sydd wedi ei orffwys.
Bydd Josh Navidi yn symud safle ac yn dechrau fel blaenasgellwr.
Er iddo orfod gadael y cae yn erbyn Awstralia ar ôl cael ergyd i'w ben, mae'r maswr Dan Biggar yn dechrau.
Mae wedi cael ei asesu yn gyson dros yr wythnos ddiwethaf ac yn barod i chwarae eto.
Un newid i Fiji
Am y tro cyntaf yn y gystadleuaeth mae'r prop Rhys Carre wedi ei gynnwys yn y 23 ac yn dechrau ar y fainc yn lle Nicky Smith.
Mae Fiji wedi gwneud un newid i'r tîm gafodd fuddugoliaeth o 45-10 yn erbyn Georgia, gydag wythwr Caeredin Viliame Mata yn dechrau.
Mae Cymru wedi ennill eu dwy gêm gyntaf yng Ngrŵp D yng Nghwpan Rygbi'r Byd ac ar y brig ar ôl sicrhau pwynt bonws yn erbyn Georgia.
Bydd eu gêm grŵp olaf ddydd Sul yn erbyn Uruguay.
Tîm Cymru:
L Williams; North, Jonathan Davies, Parkes, Adams; Biggar, G Davies; W Jones, Owens, Francis, Ball, AW Jones (capt), Navidi, James Davies, Moriarty.
Eilyddion: Carre, Dee, Lewis, Shingler, Wainwright, T Williams, Patchell, Watkin.
Tîm Fiji:
Murimurivalu; Tuisova, Nayacalevu, Botia, Radradra; Volavola, Lomani; Ma'afu, S Matavesi, Saulo, Cavubati, Nakarawa, Waqaniburotu (capt), Kunatani, Mata
Eilyddion: Dolokoto, Mawi, Ravai, Ratuniyarawa, Yato, Matawalu, Vatubua, J Matavesi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd29 Medi 2019