Cyfarfod i drafod pryderon am ddiogelwch plant LHDT

  • Cyhoeddwyd
Cyfarfod GISDA

Daeth tua 30 o bobl i gyfarfod yng nghanolfan GISDA yng Nghaernarfon ddydd Mercher, i drafod pryderon am ddiogelwch pobl ifanc sy'n mynychu clwb ieuenctid LHDT.

Yn ystod y cyfarfod fe wnaeth Heddlu'r Gogledd gadarnhau fod bachgen 13 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â rhai ymosodiadau ar aelodau'r clwb.

Roedd pryderon wedi codi yn ddiweddar ynglŷn â diogelwch pobl ifanc sydd yn mynychu'r clwb wrth i'r trefnwyr ddweud eu bod wedi gweld cynnydd mewn "tyndra a gelyniaeth" oddi wrth bobl ifanc o du allan i'r clwb.

Yn bresennol yn y cyfarfod brynhawn Mercher roedd yr AS Hywel Williams, Heddlu Gogledd Cymru, swyddogion o Gyngor Gwynedd yn ogystal â rhai o'r bobl ifanc sy'n mynychu'r clwb.

Fe gafodd y clwb ei sefydlu gan elusen GISDA ym mis Ionawr 2017, ac mae yna tua 165 o aelodau.

Nod y clwb yw cefnogi pobl ifanc o'r gymuned lesbiaid, hoyw, deurywiol a thraws.

'Troseddau casineb'

Dywedodd prif weithredwr Gidsa, Sian Elen Tomos fod hyn yn enghraifft o "droseddau casineb" yn erbyn y bobl ifanc.

Ychwanegodd Ms Tomos: "Yn dilyn digwyddiad diweddar, fe oedd yn rhaid i un o'r bobl ifanc sy'n mynychu'r clwb fynd i'r ysbyty i gael triniaeth, ac nid yw hyn yn dderbyniol.

"Dim ond £4,500 'da ni yn ei gael i gynnal y clwb 'ma, ac mi rydyn ni angen deg gwaith hynny mewn gwirionedd, er mwyn gallu cynnal y platfform hwn i'n pobl ifanc."

Dywedodd Claire, un o wirfoddolwyr y clwb ei bod wedi bod yn destun ymosodiad ei hun 18 mlynedd yn ôl.

"Er bod yr ymosodiad arna i wedi digwydd 18 mlynedd yn ôl, beth sy'n dda heddiw yw bod y clwb yma yn bodoli er mwyn gallu cefnogi'r gymuned LGBT pan mae digwyddiadau fel hyn yn codi.

"Doedd gen i neb i droi atynt bryd hynny, ac o leiaf fod pethau wedi dechrau newid er gwell ers hynny," meddai.

'Lle diogel'

Dywedodd Non Evans, Sarjant tîm Cymunedol Caernarfon gyda Heddlu'r Gogledd: "Da ni'n trio gyrru swyddogion bob yn ail nos Lun i'r clwb, ond oherwydd toriadau i gyllideb yr heddlu, ni allwn ymrwymo i sicrhau fod swyddogion yma ar gyfer bob achlysur.

"Yn dilyn digwyddiadau diweddar, da ni wedi cymryd camau yn erbyn y person oedd yn gyfrifol, ac mae'r person hwnnw yn cael ei ddelio ag o yn y system rŵan.

"Yn ogystal â hyn, rydym hefyd yn ymchwilio i ddwy drosedd arall yn gysylltiedig â'r clwb."

Dywedodd Hywel Williams AS: "Mae isio lle diogel i'r holl gymuned allu mynychu, ac mae eisiau derbyniad drwy'r gymdeithas fod pobl yn wahanol, tydi o ddim yn ormod i ofyn am hyn.

"Mae'r achos yma yn agos at fy nghalon gan fod gen i ffrind, yn anffodus oedd yn un o'r rhai cyntaf i farw o AIDS.

"Er i ni golli cysylltiad erbyn y diwedd, doeddwn i ddim yn gwybod ei fod yn hoyw nes ei fod wedi ein gadael ni, a dwi wastad yn cofio'n ôl at y ffaith mod i wedi methu rhoi fy mraich o'i gwmpas o, gan nad oedd yn teimlo ei fod wedi gallu 'dod allan' bryd hynny."