Chris Mepham allan o garfan Cymru gydag anaf

  • Cyhoeddwyd
Chris Mepham

Mae amddiffynnwr Cymru, Chris Mepham, wedi tynnu'n ôl o'r garfan ar gyfer gemau rhagbrofol Euro 2020 oherwydd anaf.

Roedd Mepham wedi ei gynnwys yng ngharfan Ryan Giggs ddydd Iau ar gyfer y gemau yn erbyn Slofacia a Croatia.

Cadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru y byddai amddiffynnwr MK Dons, Regan Poole, yn ymuno â'r garfan yn ei le.

Bydd Cymru'n herio Slofacia yn Trnava ar 10 Hydref cyn croesawu Croatia i Stadiwm Dinas Caerdydd ar 13 Hydref.

Mae Cymru yn bedwerydd yng ngrŵp E, ond maen nhw wedi chwarae un gêm yn llai na'r timau eraill.