Tom Lawrence yng ngharfan Cymru wedi cyhuddiad yfed a gyrru

  • Cyhoeddwyd
Tom LawrenceFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Mae asgellwr Cymru, Tom Lawrence, gafodd ei gyhuddo o yfed a gyrru yr wythnos ddiwethaf, wedi ei gynnwys yn y garfan ar gyfer gemau yn erbyn Slofacia a Croatia.

Cafodd Lawrence, 25, ei gyhuddo yn dilyn digwyddiad ar ôl noson allan gyda'i gyd-chwaraewyr i glwb Derby County.

Mae'r amddiffynnwr Ashley Williams hefyd yn ôl yn y garfan ar gyfer y rhagbrofol Euro 2020 ar ôl methu gemau yn erbyn Azerbaijan a Belarws fis Medi.

Hefyd yn dychwelyd i garfan Ryan Giggs mae'r ymosodwyr Tyler Roberts a Rabbi Matondo.

Bydd Cymru'n chwarae Slofacia oddi cartref ar 10 Hydref cyn croesawu Croatia i Stadiwm Dinas Caerdydd ar 13 Hydref.

Mae disgwyl i Lawrence, wnaeth chwarae dros Derby nos Fercher, ymddangos yn y llys ddyddiau'n unig ar ôl y gêm yn erbyn Croatia.

'Ddim yn benderfyniad hawdd'

Dywedodd Giggs bod cynnwys Lawrence "ddim wedi bod yn benderfyniad hawdd".

"Rydw i wedi 'nabod Tom ers amser hir - fi roddodd ei ymddangosiad cyntaf i Manchester United iddo.

"O safbwynt pêl-droed, fe chwaraeodd neithiwr [nos Fercher] gyda Derby ac roeddwn i eisiau iddo fod yn rhan o'r garfan - mae'n chwaraewr pwysig i ni."

Ychwanegodd Giggs y byddai'n "gweld sut y bydd yn hyfforddi cyn gwneud penderfyniad i'w ddechrau yn un o'r gemau".

Y capten yn ôl

Roedd Williams heb glwb pan gafodd ei hepgor gan Giggs am y gemau diwethaf, ond mae o bellach wedi ymuno gyda Bristol City.

Amddiffynnwr St Pauli, James Lawrence, sy'n gwneud lle yn y garfan i Williams.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Williams, sydd wedi ennill 86 o gapiau dros Gymru, ei adael allan o'r garfan i herio Azerbaijan a Belarws

Mae Matondo, sgoriodd ei gôl gyntaf dros Schalke yr wythnos diwethaf, yn dychwelyd i'r garfan yn dilyn anaf diweddar.

Mae ymosodwr Leeds United, Roberts, hefyd yn cael lle ymysg y blaenwyr gyda Gareth Bale, Sam Vokes, Tom Lawrence a Kiefer Moore.

Ben Woodburn a Ryan Hedges sy'n colli eu llefydd.

Bydd y cefnogwyr yn gobeithio gweld Aaron Ramsey yn ôl yng nghanol y cae ar ôl iddo fethu'r gemau rhagbrofol diweddar.

Mae Cymru yn bedwerydd yng ngrŵp E, ond maen nhw wedi chwarae un gêm yn llai na'r timau eraill.

Carfan Cymru i wynebu Slofacia a Croatia:

Gôl-geidwaid

Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (Caerlŷr), Adam Davies (Stoke)

Amddiffynwyr

Chris Gunter (Reading), Ashley Williams (Bristol City), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Neil Taylor (Aston Villa), Connor Roberts (Abertawe), Ethan Ampadu (Leipzig - ar fenthyg o Chelsea), Chris Mepham (Bournemouth), Tom Lockyer (Charlton), Joe Rodon (Abertawe).

Canol cae

Aaron Ramsey (Juventus), Joe Allen (Stoke), Jonny Williams (Charlton), Harry Wilson (Bournemouth - ar fenthyg o Lerpwl), Matthew Smith (Queens Park Rangers - ar fenthyg o Manchester City), Daniel James (Manchester United), Will Vaulks (Caerdydd), Joe Morrell (Lincoln - ar fenthyg o Bristol City).

Ymosodwyr

Gareth Bale (Real Madrid), Sam Vokes (Stoke), Tom Lawrence (Derby County), Tyler Roberts (Leeds United), Rabbi Matondo (Schalke 04), Kieffer Moore (Wigan).