Celloedd carchar yn llys Wrecsam gam yn nes yn dilyn oedi
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i gynlluniau ar gyfer celloedd carchar newydd yn Llys Ynadon Wrecsam symud gam ymlaen ddydd Llun yn dilyn oedi.
Mae swyddogion adran gynllunio'r cyngor wedi cael eu hargymell i gymeradwyo'r bloc deulawr, er i orchymyn cadw ar goed gerllaw rwystro'r cynlluniau.
Mae'r oedi yn y broses yn golygu bod achosion gwarchodol y llys, sydd fel arfer yn cael eu cynnal yn Wrecsam, wedi gorfod cael eu cynnal yn Yr Wyddgrug - 10 milltir i ffwrdd.
Dywed yr aelod seneddol lleol, Ian Lucas nad yw'r daith ychwanegol i ddioddefwyr, diffinyddion a chyfreithwyr yn dderbyniol.
Cafodd adnoddau gorsaf heddlu Bodhyfryd gerllaw eu cau ddechrau'r flwyddyn.
'Oedi hir'
Roedd yna oedi i gais cynllunio'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi i orchymyn cadw gael ei osod ar goed gerllaw llys Wrecsam.
Yn ôl Mr Lucas, mae'r celloedd newydd yn hanfodol i ddyfodol y llys.
Ychwanegodd: "Ar yr union amser mae llysoedd yn cau ar draws y DU dwi'n gwerthfawrogi bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi buddsoddi yn Wrecsam ac rwy'n falch bod hyn yn digwydd wedi oedi hir."
Nododd hefyd y dylai'r cyngor a Heddlu'r Gogledd fod wedi meddwl am gelloedd eraill cyn cau prif orsaf heddlu'r dref.
Dywedodd prif swyddog cynllunio Cyngor Wrecsam, Lawrence Isted, y byddai'r datblygiad yn golygu dymchwel wyth coeden er mwyn gwneud lle i gerbydau.
Ond ychwanegodd y byddai mwy o goed yn cael eu plannu er mwyn gostwng yr effaith.
Bydd ei adroddiad yn cael ei gyflwyno ger bron Cyngor Wrecsam ddydd Llun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2011