Haciwr ffonau o Gymru am weld ail ran ymchwiliad

  • Cyhoeddwyd
Dan EvansFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Dan Evans ddedfryd o garchar am 10 mis wedi ei gohirio am hacio ffonau

Mae newyddiadurwr o Gymru fu'n hacio ffonau ar ran papurau newydd yn dweud bod eraill yn y diwydiant wedi osgoi sylw'r awdurdodau.

Yn wreiddiol o Sir Ddinbych, cafodd cyn-ohebydd papur y Wrexham Leader, Dan Evans, ddedfryd o garchar am 10 mis wedi ei gohirio ar ôl cyfaddef i'w ran yn y sgandal hacio ffonau tra roedd yn gweithio i'r News of the World.

Rhoddodd dystiolaeth yn yr achos troseddol yn erbyn ei gyn-olygydd ar y papur hwnnw a chyn-bennaeth cyfathrebu David Cameron yn Downing Street, Andy Coulson.

Bu Evans hefyd yn gweithio i'r Sunday Mirror a rŵan mae'n honni bod peth o'r dystiolaeth a roddwyd i'r ymchwiliad cyhoeddus oedd yn edrych ar y sgandal hacio ffonau yn gamarweiniol, ac nad ydy'r heddlu'n ymchwilio i'r honiadau hynny.

Leveson

Pan ddaeth i'r amlwg bod ditectif preifat wedi ei ddefnyddio gan y News of the World i wrando ar negeseuon ffôn y ferch ysgol Millie Dowler ar ôl iddi gael ei llofruddio, roedd yr ymateb cyhoeddus yn chwyrn.

Fe arweiniodd at sefydlu ymchwiliad cyhoeddus i ymddygiad y wasg, yr heddlu a gwleidyddion - o dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Ustus Syr Brian Leveson.

Cafodd yr ymchwiliad ei rannu'n ddau, gyda'r ail ran yn cael ei ohirio tan ar ôl i achosion llys troseddol ddod i ben - gyda hynny'n digwydd yn 2016.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Andy Coulson ei garcharu am ei ran yn y sgandal

Fe benderfynodd Llywodraeth y DU beidio bwrw 'mlaen â'r ail ran, gan olygu na chafodd llawer o ddioddefwyr yr hacio sôn am eu profiadau'n gyhoeddus.

Roedd hefyd yn golygu na wnaeth ymchwiliad Leveson glywed gan bobl fel Dan Evans, oedd yn bennaf gyfrifol am y clustfeinio.

Mae o bellach yn bwrw amheuaeth dros peth o'r dystiolaeth gafodd ei chyflwyno yn rhan gyntaf yr ymchwiliad.

"Mae 'na gwestiynau i'w hateb ynglŷn â'r dystiolaeth gafodd ei rhoi i Leveson, y stwff fyddai wedi ei drafod yn Leveson 2, ond na wnaeth," meddai.

"Mi benderfynodd y llywodraeth ganslo Leveson 2. gan felly ollwng y chwyddwydr oedd ar bobl."

Achosion sifil

Mae cyfres o achosion lle mae cyn-gyflogwyr Evans - Mirror Group Newspapers a News Group Newspapers - wedi talu cannoedd o filiynau o bunnau i ddioddefwyr hacio cyn i'r achosion fynd i lys sifil.

Fe gyrhaeddodd un achos yn ymwneud â Mirror Group Newspapers yr Uchel Lys yn 2015, ble rhoddodd Evans dystiolaeth ar ran y rhai oedd yn hawlio iawndal.

Yn ei ddyfarniad ym mis Mai 2015, fe ddwedodd Mr Ustus Mann bod tystiolaeth cyn-olygydd y Daily Mirror, Richard Wallace, i Ymchwiliad Leveson yn wallus.

Fe wnaeth o hefyd ddisgrifio tystiolaeth i'r un ymchwiliad gan gyn-olygydd y Sunday Mirror, Tina Weaver, fel "anghywir".

"Rwy'n casglu ar sail y dystiolaeth a glywais [tra'n derbyn nad oedd yn cynnwys tystiolaeth gan yr unigolion o dan sylw] bod datganiadau anghywir, yn ogystal â ffuantus, wedi eu rhoi i Ymchwiliad Leveson gan o leiaf dau dyst," medd y barnwr.

"Yn wir, roedd yr arfer o hacio ffonau yn eang, sefydliadol a hirhoedlog. Roedd staff golygyddol, nid yn unig yn gwybod am yr arfer, ond hefyd yn debygol o fod wedi ei wneud eu hunain."

Ni chafodd Richard Wallace na Tina Weaver eu cyhuddo o droseddau'n ymwneud â hacio ffonau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth barnwr Uchel Lys leisio amheuaeth am dystiolaeth Richard Wallace a Tina Weaver

Ym mis Rhagfyr 2015, cyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron eu bod yn dod â'u hymchwiliadau i honiadau o hacio ffonau yn erbyn Mirror Group Newspapers a News UK i ben, ac na fyddai camau pellach yn cael eu cymryd yn erbyn y cwmnïau nac unrhyw unigolion.

Fe benderfynon nhw hefyd na allan nhw gyflwyno Dan Evans fel tyst ar ran yr erlyniad, er iddyn nhw ei ddefnyddio'n llwyddiannus mewn achosion blaenorol.

Gofynnodd BBC Cymru am ymateb gan Ms Weaver a cheisio cysylltu gyda Mr Wallace, ond ni gafwyd ateb.

Mae Mirror Group Newspapers - Reach Plc. bellach - wedi gwrthod gwneud sylw.

Ymchwiliad arall

Mae Dan Evans yn grediniol y dylai gwaith ail ran Ymchwiliad Leveson fynd yn ei flaen, ac mae wedi dechrau ei brosiect ymchwil ei hun o'r enw Alt Lev gyda'r nod o efelychu'r gwaith hwnnw.

Mae'n gwadu ei fod yn ceisio pwyntio bys at eraill.

"Byddai hi gymaint haws bwrw 'mlaen efo bywyd. Nid ceisio dial ydy hyn," meddai.

"Mae fy rôl yn hyn ar y dechrau yn golygu fy mod mewn sefyllfa unigryw i wneud y gwaith gan fy mod i'n deall yr holl elfennau.

"Mae angen i bobl gofio, er mwyn cyrraedd gwybodaeth bersonol bob person enwog roedd angen mynd ar ôl pump, 10 neu 15 o bobl gyffredin.

"Mi gafodd llawer o bobl gyffredin eu heffeithio gan weithredoedd y papurau newydd dros y blynyddoedd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Guto Harri, fu'n gweithio i News UK, yn erbyn y syniad o ymchwiliad pellach

Mae Guto Harri, oedd yn arfer gweithio i News UK, yn erbyn y syniad o wario arian cyhoeddus ar ymchwiliad pellach tebyg i Leveson.

"Dwi ddim yn credu bod y trethdalwr cyffredin, a dwi ddim yn credu bod y werin, yn crefu misoedd ar fisoedd yn pori trwy hen hanes, sydd nid yn unig wedi cael ei ystyried yn ddwys, ond mae'r rheiny sy'n haeddu cael eu cosbi wedi eu cosbi ac mae'r rheini sy'n haeddu iawndal wedi cael iawndal," meddai.

"Dwi'n credu os oes rhywun wedi torri'r gyfraith, mai'r lle i ddelio efo nhw yw trwy gyfrwng y broses gyfreithiol.

"Mae'n gas gen i ymchwiliadau sy'n mynd ymlaen ac ymlaen a ddim yn y pendraw yn gallu dweud yn union beth ddigwyddodd ac yn benodol ddim yn gallu pwyntio bys at unigolion a ddim yn gallu cosbi nhw."

Fe wnaeth Llywodraeth y DU gyfeirio BBC Cymru at eu datganiad o fis Mawrth 2018 yn amlinellu'r penderfyniad i beidio bwrw ymlaen ag ail ran Ymchwiliad Leveson, gan ddadlau bod yr ymchwiliad a thri ymchwiliad heddlu wedi bod yn "drwyadl".

"Ers iddo gael ei sefydlu, mae amcanion ail ran yr ymchwiliad wedi eu bodloni," meddai'r datganiad.

Disgrifiad o’r llun,

Cadeiriwyd yr ymchwiliad cyntaf gan Syr Brian Leveson

Maen nhw'n dadlau bod rheolaeth y wasg wedi newid yn sylweddol a bod twf anreoledig y cyfryngau cymdeithasol a materion fel newyddion ffug wedi cyflwyno heriau newydd sy'n "fygythiad i newyddiaduraeth o ansawdd".

Cafwyd naw person yn euog o gyhuddiadau'n ymwneud â hacio ffonau ar ôl Ymchwiliad Weeting yr heddlu. Cafwyd tri yn ddieuog.

Dywedodd News UK - News Group Newspapers gynt - nad oedd ganddyn nhw unrhyw beth i'w ychwanegu at ddatganiad y llywodraeth.

Maen nhw'n gwadu bod unrhyw beth o'i le wedi digwydd ym mhapur The Sun. Cafodd papur The News of the World ei gau yn 2011.