1,400 yn llai o staff cefnogol mewn ysgolion cynradd
- Cyhoeddwyd
Mae bron i 1,400 yn llai o staff cefnogol yn gweithio yn ysgolion cynradd Cymru o'i gymharu â phedair blynedd yn ôl.
Mae'r gostyngiad 7.5% o 18,655 i 17,261 yn cynnwys colli dros 1,000 o gynorthwywyr dysgu arferol a 300 o staff sy'n cefnogi disgyblion ag anghenion ychwanegol.
Dywedodd pennaeth ysgol gynradd yng Nghaerdydd bod effaith y gostyngiad yn "dorcalonnus".
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod yn gwneud y "buddsoddiad sengl mwyaf" yn y gweithlu addysg ers 1999.
Er y gostyngiad yn nifer y cynorthwywyr dysgu arferol, roedd cynnydd yn nifer y cynorthwywyr dysgu lefel uwch - o 1,128 to 1,435.
'Ofni'r gyllideb'
Dywedodd pennaeth Ysgol Gynradd Moorland, Jane Jenkins bod toriadau'n golygu ei bod wedi gorfod colli tri o'r 30 o gynorthwywyr dysgu sydd yn yr ysgol.
"Mae'n hollol dorcalonnus meddwl nad ydyn ni'n gallu darparu'r un gefnogaeth a'r hyn yr oedden ni 12 mis yn ôl," meddai.
"Mae'r system wedi troi eu cefnau ar y genhedlaeth yma o blant."
Ychwanegodd Ms Jenkins ei bod yn bryderus am y dyfodol a'i bod "eisoes yn ofni beth fydd cyllideb y flwyddyn nesaf".
"Rydw i wedi bod yn bennaeth ers 1997 a dydw i erioed wedi gweld cyllideb fel yr un a gawsom eleni," meddai.
Dywedodd Rob Williams o Gymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru bod recriwtio a chadw staff pwysig wedi troi'n broblem "fwyfwy anodd" i ysgolion.
"Mae arweinwyr ysgolion yn dweud wrthym fod y galw am well ddarpariaeth yn uwch nac erioed, ond dyw nifer o'r staff cefnogol ddim yn fforddiadwy i ysgolion," meddai.
"Rydyn ni'n gwybod bod ysgolion yn gorfod lleihau nifer y cynorthwywyr dysgu, neu nifer yr oriau o waith maen nhw'n cynnig iddyn nhw, oherwydd y pwysau ar eu cyllidebau.
"Nes i ni fynd i'r afael â'r materion hyn a dychwelyd i sefyllfa ble mae cymryd swydd mewn ysgol yn fwy dymunol, gyda llai o bwysau a thâl teg, bydd pobl ifanc Cymru yn colli allan ar eu hawl i addysg o safon."
'Buddsoddiad mwyaf yn y gweithlu'
Yn gynharach eleni fe wnaeth ymchwil annibynnol ddarganfod bod cyllid ysgolion wedi gostwng £500 y disgybl dros y degawd diwethaf.
Fe wnaeth pwyllgor Cynulliad ddatgan hefyd nad oes digon o arian yn cael ei fuddsoddi yn y system addysg, dolen allanol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "I helpu codi safonau, rydyn ni'n darparu'r buddsoddiad sengl mwyaf yn ein gweithlu ers dechrau datganoli."
Mwy ar Wales Live, BBC One Wales am 22:30 nos Fercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd26 Medi 2019
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2018