Gwobr i Gyngor Geredigion am gefnogi ffoaduriaid

  • Cyhoeddwyd
ceredigionFfynhonnell y llun, Ian Brodie
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y wobr ei chyflwyno yn Llundain nos Fawrth

Dywed arweinydd Cyngor Ceredigion ei bod wrth ei bodd bod yr awdurdod wedi ennill gwobr am eu gwaith yn cefnogi ffoaduriaid.

Cafodd y wobr ei chyflwyno i'r Cynghorydd Ellen ap Gwynn a Cathryn Morgan, Cydlynydd Teuluoedd yn Gyntaf a Ffoaduriaid y cyngor, yn Llundain nos Fawrth.

Roedd Ceredigion yn un o bum awdurdod lleol yn y DU i gael ei henwebu ar gyfer y wobr sy'n cael ei rhoi i gynghorau am weithio gyda grwpiau cymunedol sy'n helpu teuluoedd sy'n ffoi rhag rhyfel, newyn a digartrefedd.

Mae Ceredigion bellach wedi croesawu dros 50 o ffoaduriaid - yn eu plith Sara a Shadi sy'n ddisgyblion yn ysgol gynradd Aberteifi.

Disgrifiad,

Fe symudodd Sara o Syria yn chwech oed

Daeth Sara i ardal Aberteifi pan yn 6 oed o Lebanon.

Wrth siarad â BBC Cymru dywedodd: "Rwy'n mwynhau chwarae gyda ffrindiau, nofio, coginio ac ymarfer corff.

"Mae teulu fi i gyd yn hapus yma er bod mam a dad yn sôn am fynd nôl i Syria - ond mae fi a brawd fi yn dweud na - ry'n ni eisiau bod yn Aberteifi."

Dywedodd Shadi ei brawd: "Dwi'n hoffi pêl-droed, ffrindiau a wi'n hoffi Cymraeg."

'Cymunedau ymroddgar'

Wedi derbyn y wobr dywedodd y Cynghorydd ap Gwynn: "Dw i wrth fy modd ein bod wedi llwyddo i ennill gwobr o ledled y DU cyfan. Y wobr fwyaf yw gwybod ein bod wedi helpu cymunedau Ceredigion i gynnig diogelwch a chyfeillgarwch yng Ngorllewin Cymru i ffoaduriaid Syriaidd yn dianc rhag erchyllterau rhyfel cartref.

"Er ei fod yn fraint bod ein cyfraniad wedi cael ei gydnabod, ni fyddem wedi ennill y wobr oni bai am y cymunedau ymroddgar yn Aberystwyth ac Aberteifi. Gall Aberaid a Chroeso Teifi rannu ein llwyddiant hefyd."

Tim Finch yw Cyfarwyddwr Sponsor Refugees, y Sefydliad Dinasyddion ar gyfer Cefnogaeth Gymunedol, a drefnodd y gwobrau. Dywedodd: "Mae Cefnogaeth Gymunedol yn dibynnu ar filoedd o arwyr tawel o bob rhan o gymdeithas.

"Mae'r enillwyr ysbrydoledig o'r wobr eleni yn dangos bod y traddodiad balch Prydeinig o groesawu ffoaduriaid yn fyw ac yn iach. Mae awdurdodau lleol yn chwarae rôl hanfodol a hoffem gydnabod a diolch i Gyngor Ceredigion ac awdurdodau lleol eraill sy'n chwarae rhan hanfodol yn cefnogi cymunedau lleol i newid bywydau teuluoedd ffoaduriaid."

Cafodd Cefnogaeth Gymunedol ei lansio yn 2016 gan y Swyddfa Gartref.

Mae'n caniatáu i grwpiau gwirfoddol adsefydlu teulu o ffoaduriaid yn eu cymuned.

Mae'n rhaid i'r cyngor fetio cynlluniau cyn y gall y Swyddfa Gartref ei gymeradwyo, ac fe fydd y llywodraeth wedyn yn paru ffoaduriaid â'r grŵp cymunedol.