Ymgyrch ar droed i adfer hen eglwys Parc Dinefwr
- Cyhoeddwyd
Mae pobl ardal Llandeilo yn gobeithio adfer eglwys restredig gradd II ym Mharc Dinefwr er mwyn defnydd y gymuned leol.
Fe gafodd y gwasanaeth olaf ei gynnal Eglwys Llandyfeisant yn 1961 ond mae lleoliad addoli wedi ei nodi ar y safle cyn belled yn ôl a 1291.
Nos Sadwrn bydd cyngerdd yn cael ei chynnal yn Nhŷ Newton yng nghysgod Castell Dinefwr fel rhan o'r ymgyrch codi arian ar gyfer y gwaith atgyweirio.
Yn ôl Beth Davies, o Grŵp Cyfeillion Eglwys Llandyfeisant, y bwriad yn y lle cyntaf yw i adfer llawr pren yr eglwys er mwyn cynnal gweithgareddau lleol yno.
"Fe wnaethom ddod at ein gilydd haf diwethaf, ac erbyn hyn mae yna dros 350 yn dilyn ni ar dudalen Facebook."
Mae'r adeilad yn berchen i'r Eglwys yng Nghymru, gyda'r safle a'r tir o'i gwmpas ar les i Ymddiriedolaeth Natur Cymru.
Dywedodd Mrs Davies fod y grŵp wedi bod yn cydweithio gyda'r Eglwys yng Nghymru a'r Ymddiriedolaeth, wrth drafod dyfodol y safle.
"Fe wnaethom gynnal diwrnod agored yn ystod yr haf a daeth bron i 400 yma.
"Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi bod yn gwneud gwaith cynnal a chadw dros y blynyddoedd, ac mae'r tu mewn yn ddiogel rhag y glaw a'r elfennau," meddai
"Mae'n brosiect mawr i wneud yr holl adeilad, felly rydym am gymryd camau bach gan ddechrau gyda'r llawr."
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru: "Rydym yn cefnogi'r fenter ac yn gweithio gyda phawb i ganfod defnydd a dyfodol hirdymor i'r eglwys."
Mae Arglwydd Dinefwr wedi ei gladdu ym mynwent Eglwys Llandyfeisant, ynghyd â nifer o weision a morwynion yr ystâd hanesyddol.
Fe fydd y cyngerdd yn Nhŷ Newton yn dechrau am 18: 30 gyda chôr, unawdydd ac artistiaid eraill lleol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd21 Mai 2019
- Cyhoeddwyd4 Medi 2019