Dyn 'wedi cyffesu' i drywanu ei gariad 'dro ar ôl tro'

  • Cyhoeddwyd
Sammy-Lee LodwigFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Sammy-Lee Lodwig yn fflat y diffynnydd ar 23 Ebrill

Mae Llys y Goron Abertawe wedi clywed bod dyn 49 oed lleol wedi lladd ei gariad ar ôl "ei thrywanu dro ar ôl tro yn ei hwyneb a'i gwddf".

Mae Jason Farrell yn gwadu llofruddio Sammy-Lee Lodwig, oedd yn 22 oed, mewn tŷ yn Carlton Terrace, Abertawe ar 23 Ebrill.

Mae hefyd yn pledio'n ddieuog i achosi niwed corfforol difrifol bwriadol i ddyn yn y stryd, gan gredu mai ef oedd cariad newydd mam Miss Lodwig - oedd yn arfer bod mewn perthynas ei hun gyda'r diffynnydd.

Wrth gyflwyno achos yr erlyniad, dywedodd y bargyfreithiwr Mike Jones QC bod y diffynnydd "yn ddyn peryglus a threisgar".

Dywedodd: "Mae'r achos yma'n ymwneud â dau achos penodol, ar wahân o drais a arweiniodd at lofruddiaeth menyw ifanc".

'Llawn cenfigen'

Clywodd y rheithgor bod Mr Farrell mewn perthynas â Miss Lodwig adeg ei marwolaeth.

Ond roedd hefyd wedi bod mewn perthynas flynyddoedd ynghynt â'i mam hi, Sarah Lodwig, yn ôl yr erlyniad, ac roedd y berthynas yna'n un "wyllt" yn sgil defnydd helaeth o gyffuriau.

Dywedodd Mr Jones bod y diffynnydd wedi ymosod ar Christopher Maher yn y stryd gyda pholyn pren am ei fod yn credu taw ef oedd cariad newydd Sarah Lodwig, ac roedd yn llawn cenfigen.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r achos yn Llys Y Goron Abertawe bara am dair wythnos

Ychydig ddyddiau wedi'r ymosodiad hwnnw, cafwyd hyd i gorff Sammy-Lee Lodwig yn fflat y diffynnydd yn ardal Mount Pleasant Abertawe.

Roedd sawl anaf i'w hwyneb yn ogystal ag anafiadau i'r gwddf a'r bron.

Yn ôl yr erlyniad fe wnaeth profion fforensig ddangos bod Miss Lodwig wedi cael ei chlymu a'i thrywanu.

Clywodd y llys bod Mr Farrell wedi ysgrifennu cyffes yn y ddalfa ar y noson y cafodd ei arestio gan ddweud: "Ar ddiwrnod ei llofruddiaeth, aethon ni'n ôl i fy fflat, dechrau dadlau...

"Y peth nesaf ro'n i'n gwybod, ro'n i wedi ei chlymu a dweud wrthi 'mod i wedi cael digon, ro'n i am ei lladd hi, ac fe wnes i hynny trwy ei thrywanu dro ar ôl tro yn ei hwyneb a'i gwddf."

Mae'r achos yn parhau.