Pryder am ddyfodol uned mân anafiadau Ysbyty Singleton

  • Cyhoeddwyd
Suzy Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Suzy Davies yn dadlau bod angen ystyried modelau eraill, fel uned mân anafiadau sy'n cael ei rhedeg gan nyrsys

Mae yna bryderon fod yna fwriad i gau uned mân anafiadau Ysbyty Singleton yn Abertawe heb ddilyn y broses gywir.

Mae'r uned (MIU) wedi bod ynghau ers bron i flwyddyn ar ôl gwaith adnewyddu.

Ond mae problemau staffio yno'n golygu nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ailagor y safle.

Dywed Cyngor Iechyd Cymuned (CIC) ei bod hi'n bosib mai dyna fyddai'r penderfyniad cywir, ond bod angen i'r bwrdd iechyd drafod yr opsiynau gyda'r cyhoedd

Dywed Mwoyo Makuto o Gyngor Iechyd Cymuned: "Ry'n ni'n gwybod bod y bwrdd iechyd yn cael trafferth ymdopi o ran rhoi triniaeth pan nad yw hynny wedi ei drefnu o flaen llaw, felly petai Singleton yn cau heb ystyried yr holl system o ran rhoi gofal ar hap yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, falle y byddwn ni'n datrys un broblem, ond yn creu un arall ar gyfer y dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mwoyo Makuto bod gan bobl "farn gref ynglŷn â'u gwasanaethau"

Yn y cyfamser, mae Aelod Cynulliad lleol wedi beirniadu'r bwrdd iechyd am geisio recriwtio meddygon teulu i redeg yr MIU yno.

Daw hynny, meddai, mewn cyfnod o brinder cyffredinol o ran meddygon teulu.

Yn ôl Suzy Davies, does dim dewis gan gleifion MIU ond mynd i'r uned frys yn Ysbyty Treforys, neu roi mwy o bwysau ar feddygfeydd teulu.

'Amheus'

Mae Ms Davies yn dadlau bod angen y gwasanaeth yma yn Abertawe, ac yn dweud na fydd pobl yn barod i deithio i'r uned mân anafiadau ym Maglan.

"Mae 'na brinder o feddygon teulu beth bynnag," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Bwriad unedau mân anafiadau yw delio ag anafiadau llai difrifol, fel bod lle mewn unedau brys i'r rhai sydd wir angen bod yno

"Ond y cwestiwn i fi wedyn yw pam ry'n ni'n ystyried gwasanaeth sy'n cael ei arwain gan feddygon teulu, os does dim meddygon teulu ar gael?

"Mae pobl yn amheus nawr am beth sy'n digwydd nesaf.

"Fydd yna gwestiwn am gau'r gwasanaeth neu jyst ffeindio model arall? Heb ymateb i'r cwestiwn yna wrth gwrs mae pobl yn mynd i fod yn bryderus."

'Dim effeithiau negyddol'

Dywed y bwrdd iechyd eu bod wedi holi dros 500 o bobl ynglŷn â'u defnydd o'r MIU.

Doedd bron i hanner y rheiny heb ddefnyddio'r uned ers 10 mlynedd a doedd 60% ddim yn gwybod fod yr uned wedi bod ynghau ers bron i flwyddyn.

Maen nhw'n gwadu fod cau'r uned wedi cael effaith negyddol ar uned frys Ysbyty Treforys ac yn dweud y byddan nhw'n ymgynghori'n llawn ar y dewisiadau posibl ar gyfer y dyfodol.

Mae disgwyl i'r ymgynghoriad ffurfiol ddechrau ym mis Rhagfyr.