Parcio ar balmentydd: Galw am wahardd 'rhwystr beunyddiol'

  • Cyhoeddwyd
ceir

Mae yna alwadau gan elusen i wahardd gyrwyr rhag parcio'u ceir ar balmentydd yng Nghymru.

Dywed Living Streets Cymru bod parcio o'r fath yn rhwystr mawr i bobl anabl, pobl hŷn ac i rieni sy'n defnyddio pram.

Yn ôl adroddiad gan yr elusen, mae yna gefnogaeth gref am ddeddf newydd, gydag 83% o'r dros 1,000 o bobl a holwyd, yn dweud bod angen gwaharddiad.

Mae canfyddiadau'r arolwg yn awgrymu bod dros chwarter pobl sy'n 65 oed neu'n hŷn yn cael eu rhwystro rhag cerdded ar eu strydoedd lleol o achos y broblem.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno dirwyon ond does dim pwerau i gyflwyno gwaharddiad cenedlaethol.

Disgrifiad o’r llun,

Rhian Evans: 'Weddol sicr y bydd 'na gar neu rywbeth ar y palmant yn fy rhwystro i."

'Rhwystr beunyddiol'

"Erbyn hyn, dwi'n gweld dim, felly dwi'n gwbl ddibynnol ar fy ffon wen pan fyddai'n mynd allan," meddai Rhian Evans o Gaerfyrddin, sydd wedi colli ei golwg.

"Mae'n rhwystr beunyddiol bron achos mewn rhyw ran o'r dre' allai fod yn weddol sicr y bydd 'na gar neu rywbeth ar y palmant yn fy rhwystro i.

"Er enghraifft nawr pan fydda i'n cerdded o fan hyn ar ddydd Sul i'r capel.

"Mae 'na westy rhyngdda' i a'r capel ac yn fwy aml na dim mae 'na gar neu mae 'na lori wedi parcio ar y palmant.

"Mi allen i fynd heibio'r car a mynd allan ar y ffordd fawr ond mae'r stryd yn brysur iawn."

Mae gwaharddiad ar barcio o'r fath eisoes yn Yr Alban ac yn Llundain.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ffurfio tasglu i edrych ar opsiynau o daclo'r broblem ac mae Living Streets Cymru yn dweud bod angen gwaharddiad llawn.

"Byddai fe'n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau'r bobl yma," meddai Rhiannon Hardiman, rheolwr Living Streets Cymru.

"Ni'n teimlo ar y funud bod ni wedi creu diwylliant lle mae pobl yn teimlo bod hawliau gyda nhw i barcio ac i rwystro'r palmentydd.

"Ni'n teimlo fyddai dod â'r gwaharddiad yma yn mynd yn bell iawn tuag at newid y diwylliant yma ni wedi creu."

Ond er bod Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi'r gallu i gynghorau gyflwyno dirwyon a mannau sy'n gwahardd parcio ar balmentydd, does dim pwerau i gyflwyno gwaharddiad ledled Cymru.

"Ni o ddifrif am daclo'r broblem," meddai Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

"Mae pobl sy'n parcio ar y pafin yn creu pob math o broblemau i bobl ac yn gwneud hi'n anodd i deithio o amgylch cymunedau.

"Ond mae'n gymhleth. Dydy'r pwerau i gyd ddim gyda ni yng Nghymru felly ry'n ni wedi creu grŵp tasglu i edrych yn fanwl sut ry'n ni'n gallu gwella'r sefyllfa."