Gwobrau gwerin Radio 2 i Catrin Finch a Trials of Cato

  • Cyhoeddwyd
Seckou Keita a Catrin Finch
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Catrin Finch a Seckou Keita - wnaeth hefyd gipio gwobr cerddor y flwyddyn - ymhlith y perfformwyr yn y seremoni yn Neuadd Bridgewater

Roedd 'na lwyddiant i gerddorion o Gymru nos Fercher yn noson Gwobrau Gwerin BBC Radio 2 ym Manceinion.

Daeth y delynores Catrin Finch i'r brig yng nghategori'r ddeuawd neu grŵp gorau am ei gwaith gyda'r cerddor kora o Senegal, Seckou Keita.

Roedd y ddeuawd hefyd wedi eu henwebu am y record hir orau gyda Soar ond y triawd Trials of Cato - sydd â dau aelod o Rosllannerchrugog - aeth â hi gyda'u halbwm cyntaf, Hide and Hair.

Dywedodd Catrin Finch wrth raglen Lisa Gwilym, a oedd yn darlledu'n fyw o'r gwobrau: "'Dan ni'n really chuffed!

"Naethon ni ddechrau chwarae efo'n gilydd efo hanner dwsin o gyngherddau nôl yn 2013.

"Doedd neb yn disgw'l unrhyw beth allan o hwn ond dyna ni, chwe blynedd wedyn, 'dan ni'n mynd o nerth i nerth really efo'r prosiect yma."

Disgrifiad o’r llun,

Dyma'i ail wobr gwerin o bwys i Trials of Cato ei hennill eleni

Ar ôl gadael y llwyfan, fe siaradodd aelodau Cymraeg Trials of Cato hefyd â Lisa Gwilym.

"Ma'n deimlad pleserus iawn," meddai Robin Jones. "Oedd o'n foment gynhyrfus iawn yn y gynulleidfa ond 'dan ni'n hapus iawn i ennill."

Dywedodd Tomos Williams: "Braint enfawr i fod yma, hyd yn oed fel nominees ond i ennill... oeddan ni ddim yn disgw'l bod yn y categori yma... 'dan ni ddim yn siŵr be sy'n digwydd, a bod yn onest!"

Trials of Cato - grŵp a gafodd ei ffurfio pan roedd yr aelodau'n byw yn Beirut - enillodd wobr y band newydd gorau pan gafodd Gwobrau Gwerin Cymru eu cynnal am y tro cyntaf eleni.

Roedd artistiaid eraill o Gymru wedi cael enwebiadau eleni, sef:

  • Gwilym Bowen Rhys yng nghategori'r canwr gwerin gorau;

  • y triawd o Gaerdydd, VRïi am y gân draddodiadol orau efo'r gân Ffoles Llantrisant;

  • y grŵp Tant, oedd ar restr fer o wyth ar gyfer y Wobr Gwerin Ifanc - cystadleuaeth ar gyfer cantorion rhwng 16 a 21 oed.

Disgrifiad o’r llun,

VRï a Gwilym Bowen Rhys - oedd ymhlith yr enwebiadau - gyda Lisa Gwilym oedd yn cyflwyno o'r noson ar Radio Cymru yng nghwmni Iolo Whelan