Dyn arall bellach wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 27 oed wedi marw yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ble bu farw dyn 63 oed ddydd Mawrth.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i wrthdrawiad rhwng Renault Kangoo a Renault Megane ar yr A465, Ffordd Blaenau'r Cymoedd tua 16:10.
Bu farw David Peter Jones, 63, o Benderyn yn Hirwaun, yn y fan a'r lle.
Cafodd gyrrwr y Megane, dyn 27 oed, ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gydag anafiadau difrifol.
Ond cadarnhaodd Heddlu'r De ddydd Iau ei fod bellach wedi marw yn yr ysbyty.
'Torri ei chalon'
Mewn datganiad, dywedodd teulu Mr Jones ei fod yn ddyn "gonest, gweithiwr caled a diymhongar, a fyddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un".
"Roedd yn caru ei wraig Claire, ei deulu a'i ffrindiau, ei gŵn, ei ddiddordebau, chwerthin a bywyd.
"Mae e wedi cael ei rwygo o'n bywydau'n greulon ac mae Claire wedi torri ei chalon."
Mae teuluoedd y ddau yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae'r heddlu'n parhau i apelio am dystion i'r digwyddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2019