Hunlun! Sut mae geiriau Cymraeg newydd yn dod i fodolaeth?
- Cyhoeddwyd
Fis yma, fe gyhoeddodd Oxford English Dictionary fod 'chillax', 'simples' a 'whatevs' ymhlith y geiriau newydd a gafodd eu hychwanegu i'r geiriadur Saesneg.
Geiriadur Prifysgol Cymru ydy'r peth tebycaf i OED yn y Gymraeg, ond mae'r broses o gyhoeddi enwau newydd yn un gwahanol.
Does gan y Geiriadur ddim rhestr debyg er bod cannoedd o eiriau yn cael eu hychwanegu i'r Geiriadur bob blwyddyn.
Yn wahanol i'r OED, does gan y Geiriadur ddim tîm sy'n gweithio'n unswydd ar eiriau newydd.
Sut felly mae gair newydd yn dod i fodolaeth yn y Gymraeg?
Geiriadur hanesyddol a disgrifiadol yw Geiriadur Prifysgol Cymru - yn disgrifio defnydd pobl o iaith.
Mae'r diffiniadau'n seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi ei chasglu dros gyfnod maith, o wahanol ffynonellau hanesyddol a chyfoes, ac mae'n dangos defnydd go iawn o eiriau mewn brawddegau.
Er mwyn ennill ei le yn y Geiriadur, mae angen i air newydd gael ei ddefnyddio.
Yn aml iawn pan fydd rhyw air newydd yn ymddangos yn y Saesneg, mae fflyd o fathiadau yn cael eu cynnig yn y Gymraeg, ond amser a ddengys pa eiriau sy'n cydio ac yn dderbyniol gan drwch y siaradwyr.
Hunlun - un o eiriau 2019
Cymerwn hanes y gair hunlun am 'selfie', sef llun a gymerwch ohonoch eich hunan gyda ffôn neu ddyfais electronig debyg.
Yn 2013 cyhoeddwyd 'selfie' yn air y flwyddyn gan eiriaduron Rhydychen, a thua'r un cyfnod gwelwyd geiriau fel selffi, hunan-lun, hunanlun, hun-lun a hunlun yn dechrau cael eu defnyddio yn y Gymraeg.
Mae'r enghraifft gynharaf, o gofnod y Cynulliad yn Rhagfyr 2013, yn cael ei hynganu yn y recordiad o'r trafodaethau fel hun-lun.
Ond erbyn 2016 daeth yn amlwg, meddai'r Geiriadur, mai hunlun (gyda'r acen ar y sillaf gyntaf) oedd wedi ennill pleidlais y bobl.
Mae hanes y gair 'teledu' yn dangos yn ddigon clir mai ofer yn aml yw unrhyw ymgais gan yr ieithydd i ymyrryd yn y broses.
Fel berf y bwriadwyd y gair teledu (gyda'r un terfyniad berfol ag a geir yn darlledu); ac enw'r bocs yn y gornel oedd set deledu (sef 'set ddarlledu') neu 'teledydd'.
Ond buan y cafodd teledu ei fabwysiadu am y set ei hunan, er gwaethaf protestiadau gan ysgolheigion, gan gynnwys y diweddar Athro Gwyn Thomas.
Rhai geiriau eraill diweddar
ABCh, A.B.Ch. - [Addysg Bersonol a Chymdeithasol]
Aerobateg, erobateg - campau hedfan a gyflawnir gan awyren(nau)
Bachadain - unrhyw un o amryw fathau o wyfynod o deulu'r Drepanidae
Cawsionyn - byrgyr cig eidion, gyda thafell o gaws ar ei ben, mewn rholyn o fara
Disel, dîsl, &c. - peiriant tanio mewnol (a ddyfeisiwyd gan Rudolf Diesel (1858-1913))
Dwythell - pibell neu lestr
Rhithawdur - un sy'n ysgrifennu deunydd (yn enw. hunangofiant) ar ran y person y priodolir y gwaith iddo.
Newid ystyr dros amser
Yn aml, mae'n rhaid i'r Geiriadur newid ystyr gair sydd wedi ymddangos flynyddoedd yn ôl er mwyn adlewyrchu'r newid mewn cymdeithas.
Yn 2019 edrychwyd eto ar y teulu o eiriau gwrywgydiaeth, gwrywgydio, gwrywgydiad, gwrywgydiol, a gwrywgydiwr.
Roedd ymdriniaeth yr argraffiad cyntaf o'r geiriau hyn nôl yn 1975 yn "hynod o hen ffasiwn a rhagfarnllyd, o bosibl yn adlewyrchu'r oes", meddai'r Geiriadur.
Rhaid felly oedd rhoi ystyriaeth o'r newydd i'r geiriau hyn yng ngoleuni newidiadau yn agweddau cymdeithas.
Mae nifer o'r geiriau hyn bellach wedi eu disodli gan dermau mwy niwtral fel 'cyfunrhywiaeth' a 'chyfunrhywiol'.
Pa eiriau 'newydd' sydd i ddod?
Brecsit - eisoes mae yna erthygl wedi'i pharatoi.
Pawen lawen o bosib. Mae'n ymadrodd sydd wedi ei lunio i gyfateb i 'high five' yn Saesneg, a defnyddiodd Aled Hughes yr ymadrodd mewn ymgyrch i gael 10,000 pawen lawen gan blant ysgol er mwyn codi arian.
Bathiad diweddar iawn yw hwn (nid oes tystiolaeth cyn 2018), ac felly mae'r Geiriadur wedi dechrau casglu enghreifftiau o'i ddefnydd.
Os bydd yn parhau i gael ei ddefnyddio dros y flwyddyn neu ddwy nesaf, yna bydd yn sicr yn cael ei gynnwys yn y Geiriadur - fel cyfuniad dan 'pawen', meddai'r Geiriadur.
Pawen lawen i dîm Geiriadur Prifysgol Cymru, dolen allanol am eu cyfraniadau i'r darn
Hefyd o ddiddordeb:
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2017
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2016