Achosion o glwy'r pennau ymysg myfyrwyr yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
![brechu stiwdant](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/2F5F/production/_109272121_gettyimages-167095246.jpg)
Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i sicrhau eu bod wedi derbyn dau frechiad MMR
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn ymchwilio wedi i bron 30 achos posib o glwy'r pennau (mumps) ddod i'r amlwg ymysg myfyrwyr prifysgol.
Wrth annog pobl i sicrhau eu bod wedi derbyn y brechlyn MMR, fe gadarnhaodd ICC eu bod yn ymchwilio i'r achosion posib yn ardaloedd Caerdydd a Chwm Taf.
Mae Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Met Caerdydd a Phrifysgol De Cymru wedi cynghori myfyrwyr i fod yn ymwybodol o'r symptomau.
Bu nifer o achosion tebyg ym Mhrifysgol Met Caerdydd ym mis Ebrill, ac maen nhw wedi dweud eu bod yn cynnig cefnogaeth i ddioddefwyr.
Mae Prifysgol De Cymru wedi gofyn i unrhyw un sy'n cael diagnosis o glwy'r pennau i gysylltu â staff.
Dywedodd Prifysgol Caerdydd nad oedden nhw'n ymwybodol o unrhyw achosion ymhlith eu myfyrwyr nhw ar hyn o bryd, ond y gallai'r sefyllfa newid.
![clwy'r pennau](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/7D7F/production/_109272123_mumps.jpg)
Mae feirws clwy'r pennau yn heintus iawn ac yn gallu lledu drwy'r poer
Mae brechlyn MMR yn gwarchod pobl rhag y frech goch, y frech Almaenig a chlwy'r pennau, ond er ei fod 99% yn effeithlon yn erbyn y frech goch dim ond 85% yw'r ffigwr am glwy'r pennau.
Dywedodd Rhianwen Stiff, ymgynghorydd rheoli clefydau heintus gyda ICC: "Mae'n bosib gweld clwy'r pennau mewn unigolion sydd wedi cael eu brechu gyda'r MMR.
"Mae clwy'r pennau yn lledu drwy beswch neu disian a thrwy gysylltiad uniongyrchol gyda phoer person sydd wedi ei heintio, megis drwy gusanu neu rannu diodydd.
"Mae'n bwysig i bobl sy'n amau fod ganddyn nhw glwy'r pennau i gadw draw o'r brifysgol ac unrhyw ddigwyddiadau cymdeithasol am bum niwrnod wedi i'r symptomau ddechrau ymddangos, golchi eu dwylo'n aml ac yn enwedig ar ôl chwythu trwyn, a pheidio rhannu pethau fel poteli dŵr neu sigarét gydag unrhyw un arall."
Mae clwy'r pennau yn adnabyddus am achosi chwyddiadau ar ochr yr wyneb neu o dan y clustiau. Gall symptomau eraill gynnwys:
Cur pen;
Poen yn y cymalau;
Dim awydd bwyd;
Teimlo'n gyfoglyd;
Chwyddo poenus o'r ceilliau neu ofarïau;
Tymheredd uchel.
Mae pobl sydd ag unrhyw un o'r symptomau yma yn cael eu cynghori i gysylltu gyda'u meddyg teulu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd7 Mai 2019
- Cyhoeddwyd30 Medi 2019