Enwi ail ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r ail ddyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar Ffordd Blaenau'r Cymoedd ddydd Mawrth.
Roedd Gavin Carter yn 27 oed ac yn dod o ardal Tonyrefail yn y Rhondda.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd yn dilyn y digwyddiad, ond bu farw o'i anafiadau yn yr ysbyty.
Bu farw David Peter Jones, 63, o Benderyn yn Hirwaun, yn y fan a'r lle.
Cafodd yntau ei ddisgrifio gan ei deulu fel dyn "gonest" a "diymhongar".
'Pawb yn ei garu'
Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd ei deulu fod gan Mr Carter, a oedd yn dad i ferch o'r enw Rozabell, "galon o aur".
"Roedd Gavin yn sgaffaldiwr ac roedd yn caru gwneud hynny ac roedd wedi cael buddsoddiad i barhau ei ymarfer," meddai ei deulu.
Ychwanegodd ei fod yn "caru bocsio a rygbi" ac ei fod "wrth ei fodd gyda'r awyr agored".
"Roedd pawb oedd yn dod i gyswllt â Gavin yn ei garu ac fe fyddai'n helpu unrhyw un."
Mae teuluoedd y ddau fu farw yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i wrthdrawiad rhwng Renault Kangoo a Renault Megane ar yr A465 tua 16:10 ddydd Mawrth, 15 Hydref.
Mae'r heddlu'n parhau i apelio am dystion, ac mae ymchwiliad yn digwydd ar ran y crwner.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2019