Carchar estynedig i ddyn am dreisio ei blant ei hun

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd y dyn yn euog wedi achos a barodd am dair wythnos yn Llys y Goron Abertawe

Mae dyn a dreisiodd ei ferched ei hun - gan genhedlu chwech o blant gyda nhw - wedi cael dedfryd estynedig o garchar am oes gyda lleiafswm o 22 mlynedd dan glo.

Fe wnaeth y dyn - na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol - orfodi ei ferched ei hun i gael rhyw gydag ef.

Ni ddangosodd y dyn unrhyw emosiwn wrth i'r barnwr gyhoeddi'r ddedfryd o 33 mlynedd yn y carchar, cyn ychwanegu y bydd yn treulio o leiaf 22 mlynedd cyn y bydd ganddo'r hawl i wneud cais am barôl.

Dywedodd y Barnwr Paul Thomas QC: "Mae'r hyn a wnaethoch chi dros gyfnod o tua 20 mlynedd yn plymio dyfnderoedd llygredigaeth.

"Roedd eich ymddygiad yn gwbl anfad.

"Rydych chi wedi gadael eich dioddefwyr, eich merched eich hunan, gyda'u bywydau mewn darnau.

"Yn fiolegol, roedd un o'ch merched hefyd yn wyres i chi. Fe wnaethoch chi eu treisio gannoedd o weithiau."

Mae'r ddedfryd estynedig yn golygu y gall y dyn gael ei alw nôl i'r carchar, hyd yn oed os fydd yn cael ei ryddhau, tan y bydd yn 100 oed.