Y cwmni ceffylau o Lanberis yng nghyfres newydd HBO
- Cyhoeddwyd
Mae cyfres newydd HBO ar Sky Atlantic, 'The Watchmen, dolen allanol', wedi ei gosod yn Oklahoma, UDA, ond wedi ei ffilmio yn rhannol yng ngogledd Cymru. Un sydd wedi bod yn cadw manylion y gyfres yn gyfrinach ers bron i flwyddyn yw'r hyfforddwr ceffylau Dylan Jones.
O'i stablau y tu ôl i Westy Dolbadarn ym mhentref Llanberis mae Dylan yn rhedeg cwmni Dolbadarn Film Horses sydd hefyd wedi gweithio ar ffilmiau fel War Horse, Robin Hood a Wrath of the Titans yn ogystal â Game of Thrones.
Yn 2018 treuliodd ddau fis yn gweithio efo Jeremy Irons a gweddill y criw yng Nghastell Penrhyn a stâd y Faenol ger Bangor.
Mae Jeremy Irons yn chwarae rhan dyn sy'n byw bywyd moethus mewn castell enfawr yn y gyfres sy'n seiliedig ar lyfrau comic o'r 80au.
Gweithio efo'r sêr
"Nes i weithio fel horsemaster ar y production," meddai Dylan. "Ro'n i'n sypleio ceffylau, riding doubles, certiau a phob dim. Rhwng y prep a'r ffilmio roeddan ni'n gweithio ar y production am ryw ddau fis.
"O'n i'n reit lwcus efo Jeremy Irons achos mae o wedi bod yn reidio ers blynyddoedd a mae ganddo fo ei geffyl ei hun.
"Fel arfer does gan yr actorion ddim llawer o experience o reidio ceffylau ond oedd Jeremy yn fendigedig i weithio efo fo ac oedd o yn rhan fwyaf o'r scenes so oeddan ni'n gweithio efo Jeremy bob dydd.
"Roedd o'n reidio stalwyn gwyn ac oedd 'na gymeriad arall ar gefn ceffyl du ac roedd 'na geffyl a throl hefyd. Ar gyfer y scenes stynts roedd 'na geffylau doubles hefyd.
"Gathon ni lot o hwyl yn gweithio efo Jeremy Irons a gweddill y cast i ddeud y gwir."
Roedd yn gyfnod prysur i Dylan oedd newydd orffen gweithio ar Doctor Who a chyfres fawr arall sydd ar y teledu yn yr hydref, His Dark Materials, a gafodd ei ffilmio yn ne Cymru.
"O'n i'n prepio am tua mis i chwe wythnos cyn saethu yn Castell Penrhyn a Faenol," meddai Dylan.
Cadw'r gyfrinach
"Mae pob un scene efo'r ceffylau yn Castell Penrhyn a Faenol - dwi ddim yn gwybod sut maen nhw'n mynd i roi hwnna mewn i'r gwahanol episodes, ond dwi 'di clywed bod 'na clips o'r scenes yn Penrhyn yn bob un pennod dwi'n meddwl.
"Mae security HBO reit dynn so 'nath pawb seinio contract i wneud yn siŵr bod pawb yn ddistaw nes bod y sioe yn dechrau," ychwanegodd Dylan.
Gwaith meistr y ceffylau ydy gofalu am yr holl waith ceffylau ar gynhyrchiad - gan gynnwys iechyd a diogelwch, hyfforddi actorion, a chynghori'r cyfarwyddwr.
"Nes i siarad lot efo'r producers o America ac roedden nhw mor hapus efo'r location a sut roedd y bobl - roedd pawb yn hapus."
Ysbrydoliaeth gan George Lucas yn Llanberis
Mae Dylan yn rhedeg y cwmni ers 1997. Ond roedd yr hadau wedi eu plannu gan ei rieni, Aneuryn a Jeanette, a gychwynodd y busnes yn y 1970au.
"Roedd gogledd Cymru yn dechrau bod yn location reit popular yn yr wythdegau a'r nawdegau a 'nathon nhw ddechrau sypleio ceffylau i ffilm gyntaf Michael Mann, The Keep yn 1982," meddai Dylan.
"Wedyn nath George Lucas ddod i chwarel Dinorwig yn 1987 efo Willow a nath y teulu sypleio 100 o geffylau i hwnna.
"O'n i'n 10 oed, felly'n rhy ifanc i reidio ond dwi'n cofio ar ôl ysgol o'n i'n mynd lawr i'r stablau yn Nant Peris i helpu allan a ges i'r chance i fynd ar y set ac oedd o'n brofiad bendigedig i fi ar y pryd. Dwi'n meddwl mai hwnna nath ddechrau'r passion.
"Oedd o'n reit naturiol i fi gario mlaen be' oedd y teulu yn 'neud."
Dechrau gyda S4C
Hyfforddodd Dylan fel actor gynta' cyn penderfynu canolbwyntio ar y ceffylau a mynd ati i hyfforddi gyda chwmni styntiau yng Nghaer a mynd i Bortiwgal am gyfnod i ddysgu'r dull clasurol o farchogaeth.
Roedd yn lwcus i ennill profiad ar gyfresi drama S4C yn y cyfnod cynnar, meddai, yn gyntaf ar ffilm Dirgelwch yr Ogof yn 1997 ac wedyn ar gyfresi fel Rownd a Rownd a Pengelli.
"Am y 10 mlynedd cynta' pan nes i ddechre off mi oedd o reit galed i gael fy mhig i fewn efo'r cwmnïau mawr yn Llundain ond y munud nes i weithio ar Robin Hood 'nath y tîm brofi ei hunain a 'nath bob dim fflio wedyn.
"Gathon ni contract efo Merlin gan y BBC am bedair blynedd - fi oedd yr horse master yng Nghymru i hwnna wedyn gathon ni War Horse a Wrath of the Titans. Da' ni 'di bod reit lwcus chware teg."
Mae Dylan hefyd yn gwneud styntiau ac fel body double i actorion.
Roedd yn gwneud hynny i'r cymeriad Randyll Tarly yn Game of Thrones ac fe fu Dylan a'i geffylau yn Iwerddon yn ffilmio un o olygfeydd enwocaf y gyfres, The Battle of the Bastards.
Un ar bymtheg o'u ceffylau eu hunain sydd ganddyn nhw yn y stablau ond mae hynny'n fwy na digon o waith i'r tri aelod o staff, meddai.
"Mae'n job reit anodd achos mae rhaid iti weithio efo dy geffylau trwy'r dydd, bob dydd. Mae'n cymryd tua pum mlynedd iti treinio ceffylau o scratch i'r safon i actorion reidio ac mae'n cymryd amser i hyfforddi ceffyl i wneud stynt so 'da ni yma bob dydd, trwy'r dydd - mae mwy fel bywyd na job â deud y gwir."
Hefyd o ddiddordeb: