Carcharu dyn am achosi marwolaeth ar faes pebyll

  • Cyhoeddwyd
waterhouseFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug mae dyn 27 oed wedi cael dedfryd o wyth mlynedd a phedwar mis o garchar wedi iddo ei gael yn euog o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Mae Jake Waterhouse, o Partington yn ardal Manceinion, hefyd wedi cael ei wahardd rhag gyrru am 12 mlynedd a dau fis yn dilyn digwyddiad ar faes pebyll Rhyd y Galen ar gyrion Bethel ger Caernarfon ym mis Awst.

Bu farw Anna Roselyn Evans, 46, o Aberystwyth yn yr ysbyty yn Stoke ychydig dros wythnos wedi'r digwyddiad yn oriau mân y bore ar 19 Awst.

Fore Mawrth fe wnaeth Waterhouse bledio'n euog i'r cyhuddiad.

'Ddim wedi pasio ei brawf'

Clywodd y llys bod Waterhouse a'i ffrind Philip Eves wedi treulio'r noson yn yfed Jack Daniels a lager cyn iddo yrru car ei ffrind ar y maes pebyll ger Caernarfon.

Fe yrrodd dros babell lle'r oedd Anna a Huw Evans yn cysgu.

Clywodd y llys ymhellach bod Mrs Evans wedi'i chaethiwo o dan y car a bu'n rhaid i bump o bobl godi'r car oddi arni.

Roedd Waterhouse a'i ffrind wedi teithio i Gymru ar drip pysgota ac yn y llys ddydd Mawrth nodwyd mai trwydded dros dro oedd ganddo gan nad oedd wedi pasio ei brawf gyrru.

Yn gynharach ar y daith roedd ffrind Waterhouse wedi awgrymu iddo y gallai ddysgu gyrru ar dir preifat gan na fyddai llawer o bobl ar faes pebyll Rhyd y Galen.

Yn ystod oriau mân y bore tra'r oedd ei ffrind yn y babell fe yrrodd Waterhouse o amgylch y gwersyll.

Yn ôl pobl yn aros gerllaw roedd sŵn "refio'r car fel petai yn sownd mewn mwd" ac fe waeddodd un person -"mae e'n gyrru dros y pebyll".

Wedi taro yn erbyn un babell gan anafu y rhai oedd yn cysgu yno fe barhaodd Waterhouse i yrru gan ergydio i mewn i babell teulu Evans.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Anna Roselyn Evans rhai dyddiau wedi'r digwyddiad

Wrth roi tystiolaeth yn gynharach dywedodd Mr Evans iddo glywed "bang anferth" ac fe glywodd y llys sut roedd y babell wedi'i dinistrio'n llwyr ac nad oedd yn gallu dod o hyd i'w wraig Anna.

Ond o fewn munudau gwelodd ei choesau o dan y car.

Clywodd y llys bod Waterhouse wedi dianc o'r safle ac wedi anfon neges at ei bartner yn dweud ei fod ar ffo.

Roedd e hefyd wedi ffonio ei fam a ddywedodd wrtho am "wneud y peth iawn" ac yn fuan wedyn fe aeth at yr heddlu.

Dangosodd prawf anadl cynnar ei fod wedi goryfed ond fe wrthododd gael profion pellach.

Gostwng y ddedfryd

Wrth ddedfrydu dywedodd y barnwr Rhys Rowlands fod Waterhouse "wedi diystyru yn llwyr ddiogelwch eraill.

Ychwanegodd: "Fe gollodd Mrs Evans ei bywyd o flaen ei gŵr yn y ffordd mwyaf ofnadwy.

"Heb brofiad gyrru nac wedi pasio eich prawf fe benderfynoch yrru o amgylch y maes pebyll lle'r oedd pobl yn cysgu.

"Ac wedi taro'r dioddefwyr cyntaf fe barhaoch i yrru."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae maes pebyll Rhyd y Galen ar gyrion Bethel ger Caernarfon

Roedd nifer o ffactorau i'w hystyried wrth bennu'r ddedfryd, meddai - yfed alcohol, methu â rhoi sampl yng nghelloedd yr heddlu wedi'r digwyddiad a pheidio bod â thrwydded yrru nac wedi pasio prawf.

Ond fe wnaeth y barnwr gydnabod bod Waterhouse wedi pledio'n euog ac felly cafodd y ddedfryd ei gostwng o draean.

Ar ran yr amddiffyniad dywedodd Matthew Curtis bod Waterhouse yn wirionedd edifeiriol a'i fod wedi ceisio ysgrifennu llythyr at deulu Mrs Evans ond ei fod wedi methu ysgrifennu mwy na pharagraff gan ei fod yn gwybod na fyddai ei eiriau fyth yn iawn nac yn ddigonol.

Doedd teulu Ms Evans ddim yn bresennol yn y llys ddydd Mawrth i glywed y ddedfryd.

Mewn datganiad dywedodd ei gŵr Huw Evans bod marwolaeth Anna wedi cael effaith fawr ar y teulu i gyd - gan gynnwys y plant Lowri 25 a Richard 24 oed.