Galw am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd

Mae pryder y bydd porthladd Caergybi'n cael ei daro'n economaidd gan Brexit
Mae deilydd portffolio datblygu economi Cyngor Ynys Môn wedi galw ar Lywodraeth Cymru am "help a chymorth" wrth geisio adfer economi'r ynys.
Yn ôl y Cynghorydd Carwyn Jones mae "cyllidebau datblygu" wedi aros yng Nghaerdydd tra bod cyllidebau cynghorau sir "wedi'u torri".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cefnogi amryw o fusnesau, ac er yr hinsawdd economaidd caled maen nhw'n parhau i gefnogi'r awdurdod lleol.
Daw'r galw ar drothwy cyhoeddiad cynllunio Llywodraeth y DU ar ddyfodol safle Wylfa Newydd ddydd Mercher.
'Dim ceiniog o gyllideb graidd'
Dywedodd Mr Jones fod angen cefnogaeth y llywodraeth gan mai "dyna lle mae'r pres".
"Does gennym ni ddim ceiniog o gyllideb graidd i ddatblygu'r economi - dim ond swyddogion sy'n gweithio i gael grantiau ar arian mân," meddai.

Dywedodd Carwyn Jones bod gan Gyngor Môn "ddim ceiniog o gyllideb graidd i ddatblygu'r economi"

Dros y 10 mlynedd ddiwethaf mae Ynys Môn wedi bod yn dyst i nifer o ergydion economaidd:
2009 - Cau Alwminiwm Môn gan adael 400 o bobl heb waith;
2014 - Gohirio cynllun i adeiladu melinau gwynt oddi ar arfordir y gogledd;
2017 - Gwrthod cynllun gwerth £1bn ym mharc Ynni Biomas allai fod wedi creu 1,200 o swyddi adeiladu a 500 o swyddi parhaol;
2019 - Gohirio cynllun Wylfa Newydd gan roi 9,000 o swyddi posib yn y fantol;
2019 - Cau cwmni Rehau ac ail leoli cwmni Marco gyda cholled o 144 o swyddi.


Dywedodd John Pearson fod ei gwmni wedi gorfod "torri 'nôl" oherwydd ansicrwydd
Dywedodd John Pearson - cyfarwyddwr cwmni ATC sy'n hyfforddi unigolion ar sut i ddefnyddio peiriannau diwydiannol - fod ei gwmni yn "dibynnu ar gael economi yn Ynys Môn a chael cwmnïau yn dod mewn".
"'Da ni wedi sefydlu drws nesaf i Rehau ac felly wedi colli dipyn o waith o hwnna," meddai.
"Eto, roedd Marco yn gwsmer newydd i ni."
Roedd cwmni ATC wedi bwriadu ehangu yn gynharach eleni ond yn sgil cwymp Rehau a Marco a'r ansicrwydd am Wylfa Newydd mae'r cwmni wedi gorfod "torri 'nôl" a dydyn nhw "ddim yn cynnig gwaith" bellach.
Cytunodd Mr Pearson fod angen i'r llywodraeth ymyrryd gan fod "Ynys Môn yn cael ei adael allan".

Dywedodd Dr Edward Thomas Jones bod y datblygiadau diweddar "ddim yn adlewyrchiad o botensial economaidd yr ynys"
Wrth edrych yn fanylach ar economi'r ynys dywedodd yr economegydd Dr Edward Thomas Jones o Brifysgol Bangor fod angen buddsoddi.
"Er bod diweithdra ychydig bach yn uwch na'r hyn 'da ni'n gweld yng Nghymru, y gwahaniaeth mawr ydy'r incwm sy'n dod mewn i'r swyddi ar yr ynys," meddai.
"Mae gwahaniaeth mawr mewn incwm - oddeutu £10,000 y pen o gymharu â gweddill Cymru.
"Beth sy'n bwysig ydy datblygu cwmnïau sy'n mynd i ddod ag incwm da mewn i'r ynys."
Ychwanegodd fod y cwmnïau sydd wedi gadael Môn yn rhai "o dramor" ac "nad ydyn nhw'n adlewyrchiad o botensial economaidd yr ynys".
Tra bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y "caledi economaidd" mae'n dweud ei fod wedi "buddsoddi mewn isadeiledd gan gynnwys Parc Gwyddoniaeth M-SPARC a phenderfynu ar gynllun ffafriol i greu trydedd bont dros y Fenai".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2019