Pryder am effaith ailgodi pont ar fywyd gwyllt Ynys y Big

  • Cyhoeddwyd
Ynys
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ynys mewn ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Mae 'na alw am archwiliad brys i waith sy'n cael ei gynnal ar ynys "unigryw" oddi ar arfordir Môn, sydd o bwysigrwydd gwyddonol a chadwraethol.

Daw hyn ar ôl i berchnogion Ynys y Big ger Porthaethwy sicrhau caniatâd a dechrau ar y gwaith o ailgodi pont bren i gysylltu'r ynys breifat gyda'r tir mawr.

Er bod y datblygwyr yn mynnu eu bod yn cadw at reolau, mae 'na bryder yn lleol y bydd coed yn cael eu torri ac y bydd effaith andwyol ar fywyd gwyllt ac adar.

Fel mae'r enw yn ei awgrymu, mae Ynys y Big yn gartre' i adar a bywyd morol ers degawdau.

Ynghyd â gweddill y Fenai, mae'r ynys breifat wedi'i dynodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDDGA).

Roedd 'na rodfa bren yn croesi o'r tir mawr ers y 1930au ond mae honno wedi hen adfeilio, a neb wedi bod ar gyfyl yr ynys ers degawdau gan adael llonydd i'r bywyd gwyllt sefydlu yno.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r perchnogion newydd wedi cael caniatâd i godi pont newydd

Mae nifer o adar yn nythu yno, gan gynnwys piod môr a chrehyrod bach copog.

Ond roedd y perchnogion newydd, y teulu busnes Jewson o Sir y Fflint, yn awyddus i godi pont newydd i gael mynediad i'r ynys - cais gafodd ei ganiatáu gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Yn ôl y Cynghorydd Sir dros Ward Seiriol, Carwyn Jones, mae'r gwaith wedi codi nifer o bryderon yn lleol.

"Roedd hwn yn gais dadleuol iawn lle roedd 'na gais i godi rhodfa o Ynys Môn i Ynys y Big.

'Ardal sensitif'

"O fewn y cais hwnnw, roedd angen trwyddedi morol gan Gyfoeth Naturiol Cymru," meddai.

"Roedd y gwrthwynebiad i'r cais morol yn chwyrn gan drigolion lleol, y cynghorau cymuned a'r cyngor tref cyfagos, ac asiantaethau bywyd gwyllt ac ati.

"'Da ni'n gweld heddiw be' ydy sgil effaith y pryderon 'da ni wedi'u codi, sef difrod ar lan y Fenai ac o bosib ar Ynys y Big, sy'n ardal sensitif ofnadwy.

"Mae 'na adar prin yn nythu yma fel piod y môr, crehyrod, mamaliaid yn y môr, yr ecoleg.

"Mae 'na bryder mawr yma y bydd 'na ddifrod i ynys sydd wedi cael heddwch ers 30 o flynyddoedd."

Disgrifiad o’r llun,

Hen lun o bont Cadnant gafodd ei chodi yn y 1930au

Mae'r pryderon hynny wedi arwain at alwadau am fwy o fonitro o'r gwaith sy'n digwydd ar y safle.

"Y pryder yn lleol ydy bod y rheoleiddio ddim yn cael ei ddilyn. Mae angen i Gyfoeth Naturiol Cymru ddod yma i wylio'r gwaith a gwneud yn saff bod 'na orfodaeth o'r drwydded," meddai'r cynghorydd Jones.

"Unwaith mae pethau wedi mynd, fedrwn ni ddim eu cael yn ôl."

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, maen nhw yn monitro'r gwaith i sicrhau ei fod yn cael ei wneud yn unol â'r drwydded forol a'r caniatâd cynllunio, er mwyn osgoi effeithio ar yr amgylchedd naturiol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y cwmni sy'n gwneud y gwaith adeiladu eu bod yn cadw at y rheolau

Cwmni Donbass ydy'r datblygwyr sy'n gwneud y gwaith ac mae eu rheolwr prosiect, Don Blackburn, yn mynnu eu bod yn cadw at y rheolau.

"Dwi'n meddwl bod y pryderon yn rhai dilys - ar ddiwedd y dydd, does neb eisiau i ni ddifrodi amgylchedd ddilychwin.

"Ond mae 'na broses gyfreithiol i wneud gwaith mewn llefydd fel hyn a 'da ni'n dilyn hynny'n hollol.

"'Da ni wedi torri 'chydig ar y llwyni er mwyn gallu cael mynediad diogel at y bont yr ochr arall.

Cynnal ymchwiliad

"'Da ni hefyd wedi clirio rhywfaint o'r lle o gwmpas yr adeiladau sydd yno'n barod ac sy'n mynd i gael eu hatgyweirio.

"Ond 'da ni ddim wedi torri unrhyw goed a does dim cynlluniau i wneud hynny."

Cadarnhaodd Cyngor Môn eu bod yn ymwybodol o bryderon yn lleol ond doeddan nhw ddim am wneud sylw pellach gan eu bod wrthi'n ymchwilio i'r mater.