'Amgylchedd annerbyniol' i chwaraewyr iau, medd Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad i honiadau o fwlio a cham-drin o fewn clwb pêl-droed Caerdydd wedi canfod nifer o bryderon sylweddol am "amgylchedd annerbyniol" wrth hyfforddi chwaraewyr ifanc.
Dywed y clwb eu bod wedi cyflwyno newidiadau a threfniadau cadarn newydd "er mwyn amddiffyn chwaraewyr ifanc yng Nghlwb Pêl-droed Caerdydd".
Cafodd yr ymchwiliad ei gomisiynu ar ôl honiadau o fwlio a cham-drin gan aelodau o staff a chyn aelodau o staff.
Dywedodd llefarydd ar ran y clwb: "Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd yn difaru unrhyw effaith y gallai hyn fod wedi cael, ac unrhyw bryder sydd wedi cael ei achosi gan y broses ymchwilo wnaeth ei ddilyn."
Mae copi o'r adroddiad, sy'n cynnwys casgliadau ac argymhellion y clwb wedi ei anfon i'r Uwch Gynghrair, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yr FA a chyfarwyddwyr y clwb.
'Methiannau y gorffennol'
Cafodd yr ymchwiliad ei gynnal dan arweiniad y cwmni cyfreithiol Capital Law.
Ym mis Ionawr fe wnaeth Craig Bellamy roi'r gorau i hyfforddi'r tîm dan 18 ar ôl i'r clwb benderfynu ymchwilio i honiadau o fwlio yn ei erbyn.
Daeth hyn wedi adroddiadau am gwynion am y ffordd honedig roedd y cyn ymosodwr rhyngwladol yn trin chwaraewr ifanc.
Mae Mr Bellamy, 40 oed, wedi gwadu'r honiadau.
Dywed y clwb na allant wneud unrhyw sylw ar fanylion penodol yn ymwneud ag unigolion, gan fod y rhain yn destun camau disgyblu posib.
"Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd am fynegi ei ddiolch i chwaraewyr, teuluoedd a staff yr Academi sydd wedi cynorthwyo'r ymchwiliad.
"Mae'r broses wedi caniatáu i'r clwb wynebu methiannau yn y gorffennol a chyflwyno prosesau trwyadl i atal amgylchiadau o'r fath rhag codi yn y dyfodol."
Yn Ebrill 2019 fe wnaeth arolwg annibynnol gan Barnado's o systemau gwarchod gadarnhau fod canllawiau'r clwb yn unol â gofynion Safonau Diogelu yr Uwch Gynghrair.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2019