Llysoedd yn 'esgeuluso buddiannau plant' o ran eu gofal

  • Cyhoeddwyd
Plant

Mae buddiannau plant yn cael eu hesgeuluso mewn achosion llys sy'n penderfynu pwy ddylai ofalu amdanyn nhw, yn ôl adroddiad.

Mae'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn codi pryderon am y nifer uchel iawn o blant sydd dan ofal awdurdodau lleol.

Mae'n galw am "newid llwyr mewn diwylliant" er mwyn lleihau'r niferoedd o fewn y system.

Mae yna dystiolaeth y gall bod mewn gofal arwain at ganlyniadau gwael i blant.

Mae'r comisiwn, dan arweiniad cyn uwch farnwr, yn galw am ddatganoli pwerau dros lysoedd teulu i Gymru.

Gall gwasanaethau cymdeithasol ofyn i lysoedd roi plentyn mewn gofal, neu i gael ei fabwysiadu, os ydyn nhw mewn perygl o gael ei niweidio yn y cartref.

Roedd 6,407 o blant dan ofal cynghorau'r llynedd - cynnydd o 52% ers 2003.

Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddodd y llywodraeth ym mis Gorffennaf y byddai disgwyl i gynghorau gyrraedd targedau ar leihau'r nifer y plant sy'n mynd i ofal, yn dilyn addewid ymgyrch arweinyddiaeth gan Mark Drakeford

Mae disgwyl cadarnhad cyn bo hir bod y niferoedd wedi cynyddu eto. Torfaen yw'r sir gyda'r raddfa uchaf o blant mewn gofal yng Nghymru a Lloegr.

Cynigiwyd nifer o esboniadau posib am y cynnydd, gan gynnwys amddifadedd.

Mae'r adroddiad yn dweud bod plant o'r llefydd tlotaf yn llawer mwy tebygol o fod dan ofal yr awdurdod lleol na rhai o'r cymunedau mwyaf cyfoethog.

Fe ddywedodd elusen sy'n cynrychioli plant a phenaethiaid gwasanaethau cymdeithasol bod achosion llys yn aml yn "rhy wrthwynebus ac roedd budd pennaf y plentyn yn cael ei esgeuluso".

Cyhoeddodd y llywodraeth ym mis Gorffennaf y byddai disgwyl i gynghorau gyrraedd targedau ar leihau'r nifer y plant sy'n mynd i ofal, yn dilyn addewid ymgyrch arweinyddiaeth gan Mark Drakeford.

Ond cyn hynny "cafwyd yr argraff glir o ddrifftio", meddai'r adroddiad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae arweinydd cyngor Ynys Môn, Llinos Medi sydd wedi gwrthod derbyn targedau Llywodraeth Cymru, yn dweud taw toriadau ariannol sy'n gyrru mwy o blant i ofal

Yn Lloegr, mae llysoedd arbennig wedi eu creu er mwyn helpu datrys problemau teuluoedd sydd mewn perygl o golli plant i ofal.

Mae rhesymau Llywodraeth Cymru dros beidio â gwneud yr un peth yn "anodd eu dilyn", meddai'r adroddiad.

Mae arweinydd Cyngor Ynys Môn, sydd wedi gwrthod derbyn targedau Llywodraeth Cymru, yn dweud taw toriadau ariannol sy'n gyrru mwy o blant i ofal.

Dywedodd Llinos Medi o Blaid Cymru: "Mae pob awdurdod wedi cael 10 mlynedd o lymder.

"Rydyn ni wedi ceisio achub y gwasanaethau sy'n amddiffyn y bobl fwyaf bregus, ond ar yr un pryd rydym wedi tynnu'r gwasanaethau sy'n atal pobl rhag bod yn fregus a rhoi mwy o wytnwch mewn cymunedau."