Jonny Williams allan am ddeufis yn cael llawdriniaeth

  • Cyhoeddwyd
Jonny WilliamsFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Jonny Williams adael y cae wedi 31 munud o'r gêm yn erbyn Derby County dros y penwythnos

Bydd chwaraewr canol cae Cymru a Charlton Athletic, Jonny Williams, allan am o leia' deufis gydag anaf i'w ben-glin.

Bu'n rhaid i'r chwaraewr 26 oed adael y cae wedi rhyw hanner awr o'r gêm yn erbyn Derby County dros y penwythnos, ac fe gafodd lawdriniaeth ar yr anaf ddydd Mawrth.

Mae'n ergyd i dîm Cymru a'u rheolwr Ryan Giggs hefyd.

Dechreuodd Williams yn ddwy gêm ddiweddar yn erbyn Slofacia a Croatia, gan greu argraff.

Fe fydd nawr yn absennol o'r ddwy gêm allweddol fis nesaf - oddi cartref yn erbyn Azerbaijan a gartref yn erbyn Hwngari.

Yn realistig, mae angen i Gymru ennill y ddwy gêm er mwyn mynd ymlaen i rowndiau terfynol Euro 2020.