Tref yn cofio sefydlu Banc yr Eidion Du yn Llanymddyfri
- Cyhoeddwyd
Bydd plac glas yn cael ei ddadorchuddio yn Llanymddyfri ddydd Gwener i nodi cyfraniad David Jones wrth sefydlu banc y porthmyn, sef Banc Yr Eidion Du yn 1799.
Y banc oedd un o'r rhai cynaf yn y gorllewin a daeth yn adnabyddus am ei bapurau arian oedd yn cynnwys llun o eidion neu fustach du.
Bu'n rhaid i'r cyngor tref ofyn am ganiatâd arbennig i osod y plac ar gartref gwreiddiol y banc, tafarn Y Kings Head, gan ei fod yn adeilad rhestredig.
Dywed yr hanesydd lleol Dai Gealy fod cyfnod y porthmyn wedi bod yn allweddol i dwf Llanymddyfri ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
"Oedd rhaid iddyn nhw wneud e achos o chi'n cario arian mawr o un lle i'r llall - roedd y highwaymen o gwmpas, a bydden nhw'n colli'r arian - chi'n siarad am arian mawr," meddai.
Ond fe ddaeth David Jones - perchennog cyntaf y banc gafodd ei eni yn 1756 - o gefndir digon cyffredin.
"Daeth o deulu a dim llawer o arian a theulu mawr. Ond beth wnaeth e' oedd priodi menyw a digon o arian," meddai Mr Gealy.
"O chi'n ffaelu dod yn borthmon os nad o chi wedi priodi, os nad oedd gyda chi dŷ a bod dros 30 oed."
Dywedodd y cynghorydd sir lleol, Handel Davies fod nifer o bobl leol dan y camargraff mai tafarn leol arall, y Black Ox, oedd cartref gwreiddiol y banc rhwng 1799 to 1848.
"Y Kings Head yn y fan hyn gafodd ei sefydlu," meddai.
"Mae'r plac yn cywiro hanes, yn cofio hanes ac yn dathlu hanes a dyna'r nod a bod yn onest.
"Ma' dylanwad mawr wedi bod ar yr ardal ac yn wir ar Gymru.
"Be sy'n eironig yw, s'dim rhagor o fanciau i gael yn Llanymddyfri, ni'n codi hwn ar ôl i'r banc diwethaf gael ei gau."
Cafodd Banc yr Eidion Du ei brynu gan fanc Lloyds yn 1909.
Fe wnaeth Lloyds barhau gyda llun o'r eidion du ar sieciau am rai blynyddoedd wedyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2019