'Cymru ddim yn ofni'r Springboks - mae'r ystadegau'n dangos pam'
- Cyhoeddwyd
"Rhaid credu bod rhywbeth yn bosib, bod yna freuddwyd. Heb yr agwedd yna wnaiff e ddim digwydd."
Geiriau Warren Gatland ar drothwy ei gêm olaf ond un fel hyfforddwr Cymru a gêm i benderfynu a fydd ei yrfa gyda Chymru yn gorffen ar y nodyn ucha' posib o gyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd.
Mae meddylfryd Gatland i'w weld yn amlwg yn y garfan yr wythnos hon - mae 'na newid cynnil yn yr agwedd o'i gymharu â rownd yr wyth olaf.
Byddai gadael bryd hynny wedi cael ei ystyried yn fethiant ac efallai bod elfen o beidio colli yn y perfformiad yn hytrach na mynd mas i ennill.
Mae'r pwyslais bellach ar wneud popeth posib i fod y tîm cynta' erioed o Gymru i gyrraedd y rownd derfynol.
Heb os ma' absenoldeb Liam Williams yn golled fawr, ond mae cael Jonathan Davies 'nôl yn hwb ac mae disgwyl llawer mwy o sbarc na welwyd yn erbyn Ffrainc.
Mae'r Springboks hefyd a'u bryd nid yn unig ar gyrraedd eu trydedd ffeinal ond ar ddychwelyd i fod yn rhif un y byd.
Does dim amau'r gwelliant sydd wedi bod ers i Rassie Erasmus gymryd yr awenau 20 mis yn ôl ac eleni fe goronwyd De Affrica'n bencampwyr hemisffer y De am y tro cynta' am ddegawd.
Mae'r cryfder arferol ymhlith y blaenwyr anferth, arian byw o fewnwr yn Faf De Klerk, a chyflymder yn y tri ôl, hyd yn oed heb yr un mwyaf peryglus, Cheslin Kolbe.
Deiseb dyfarnwr
Mae Cymru'n parchu ond nid yn ofni'r Springboks, ac mae'r ystadegau moel yn dangos pam.
Fe enillodd Cymru un o'r 29 gêm gynta' rhwng y ddwy wlad ond maen nhw wedi ennill pump o'r chwech ddiwetha'.
A sôn am ystadegau, dim ond un o'u 10 diwetha' mae De Affrica wedi ennill pan mae Jerome Garces yn dyfarnu, sydd wedi sbarduno un cefnogwr i drefnu deiseb i gael dyfarnwr arall yn ei le.
Breuddwyd gwrach oedd honno o'r cychwyn ond mae breuddwyd Gatland yn dal yn fyw iawn - ai dyma'r adeg i'w gwireddu?
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2019