Huw Bryant: 'Ma' 'nghalon i mo'yn i Dde Affrica ennill'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae'r gwreiddiau'n dal yn ddwfn i'r Cymro a gafodd ei eni yn Cape Town

De Affrica fydd yn cael cefnogaeth Cymro Cymraeg o Gaerdydd ddydd Sul wrth i'r Springboks wynebu Cymru yn rownd gynderfynol Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan.

Cafodd Huw Bryant a'i frawd eu geni i rieni Cymreig yn Cape Town cyn i'r teulu symud 'nôl i fyw yng Nghymru.

Er mai yng Nghymru y mae wedi byw'r rhan helaeth o'i fywyd, mae "wastad wedi dala 'mlaen i'r roots" ac eisiau i Dde Affrica ennill, hyd yn oed os taw Cymru yw'r gwrthwynebwyr.

"Ma'r acen De Affrica wedi mynd ond ma'r gwreiddie dal yna a fi wastad wedi dewis cefnogi De Affrica, hyd yn oed os mae e'n weindio cwpl o bobol lan," meddai Huw, sydd hefyd yn adnabyddus i wylwyr Hansh fel DJ Bry.

"Ma' cwpl o bobl wedi gweud... 'ti'n siarad Cymraeg, ti 'di hala mwy o amser yng Nghymru' - a maen nhw'n iawn!

"Ond fi hefyd yn dala 'mlaen i'r roots 'na a jest yn sticio 'dag e."

Canu'r ddwy anthem

Mae'n dweud ei fod wedi ymweld â theulu a ffrindiau yn Ne Affrica sawl tro ers dod yn ôl i Gymru i fyw ac yn annog pawb i fynd yno achos "mae'n wlad hyfryd".

Mae hefyd yn canu'r ddwy anthem genedlaethol pan mae'r ddau dîm yn chwarae yn erbyn ei gilydd.

Dywedodd ei fod wedi "conffiwsio cwpl o bobl o flaen ni" yn Stadiwm Principality, Caerdydd pan gurodd Cymru y Springboks 20-11 yng Nghyfres yr Hydref y llynedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn wahanol i'r brodyr Bryant, roedd tîm Cymru'n hapus ar ôl curo De Affrica yng Nghyfres yr Hydref y llynedd

Mae hefyd yn dweud nad yw'n siŵr eto lle fydd yn gwylio'r gêm ddydd Sul.

"Fi a 'mrawd wedi bod yn siarad, a ni naill ai yn mynd i watshad fe gartre... neud mynd i watshad e yn Clwb Rygbi Castellnewydd - so ni ddim yn siŵr 'to.

"Bydd siŵr o fod croeso i ni, a bydd lot o banter a gweiddi arnon ni os fydd De Affrica yn sgoro!"

Un peth yw datgan pwy mae'n dymuno ennill - mater arall yw darogan y canlyniad.

"Ma' 'mhen i'n gweud Cymru, ond ma' 'nghalon i'n mo'yn i De Affrica ennill," meddai. "Fi'n credu bod Cymru 'da'r edge 'na yn erbyn De Affrica.

"Bydde'n neis bod Cymru'n codi'r cwpan - so nhw wedi o'r blaen. 'Sdim ots 'da fi - dim ond bod Lloegr ddim yn gal e!"