Wyth mis o bryder i drigolion ynghylch eu cyflenwad dŵr
- Cyhoeddwyd
Mae teuluoedd mewn pentref yn Sir Benfro yn parhau i yfed dŵr potel, wyth mis ar ôl i broblemau ddod i'r amlwg gyda'u cyflenwad dŵr.
Fe gafodd cyflenwad 35 o dai yn Nhrecŵn eu nodi'n "anaddas i'w yfed" gan arbenigwr nôl ym mis Chwefror.
Ers hynny mae trigolion wedi gwrthod ei yfed, na'i ddefnyddio i ymolchi eu plant.
Nawr maen nhw'n pryderu y gallan nhw wynebu bil o £1.5m i newid hen bibellau haearn dan dir preifat.
'Hunllef'
Fe wnaeth Sarah Leask roi genedigaeth i'w thrydedd plentyn wyth wythnos yn ôl, ac mae hi'n ofni defnyddio'r dŵr o'r tap i olchi ei babi.
"Rwy'n lwcus fy mod yn bwydo o'r fron oherwydd buasai'n hunllef gorfod defnyddio'r dŵr tap i wneud y poteli babi.
"'Dwi ddim eisiau rhoi bath iddi yn y dŵr gwyrdd gan nad ydw i'n gwybod beth allai ei wneud i'w chroen ifanc.
"Mae ddigon anodd gyda thri o blant. 'Dwi'n talu lot o arian am ddŵr nad oes modd ei ddefnyddio," meddai.
Roedd y tai ar Ffordd Barham yn arfer bod dan berchnogaeth y Llynges Frenhinol gafodd ei gau 30 mlynedd yn ôl, ond mae'r cyflenwad dŵr yn dal i ddod oddi yno.
Mae trigolion yn talu £50 y mis i'r cwmni sydd berchen y safle, Manhattan Loft.
Mae'r cwmni eisoes wedi gwadu'r ffaith bod problem, ond roedd profion ym mis Chwefror yn dangos bod 1800 microgram o haearn ymhob litr - sy'n naw gwaith yn uwch na'r lefel gyfreithiol o 200 microgram.
Mae'r trigolion hefyd wedi cwyno fod y dŵr wedi newid ei liw a'i fod yn oglau o glorin.
Mae Manhattan Loft wedi gwrthod gwneud sylw, ond fe fyddan nhw'n mynychu cyfarfod gyda phobl leol, y cyngor a Dŵr Cymru ar 7 Tachwedd.
Dal yn y canol
Mae trigolion yn dadlau eu bod wedi'u dal yn y canol, yn methu â gwerthu eu tai ac yn wynebu'r posibilrwydd o osod pibellau dŵr newydd.
"Rydym wedi clywed gallai gostio £1.5m i drwsio'r pibellau, fyddai'n cymryd oes i'w dalu," meddai Luke Pieniak.
"Rydym yn gwybod y bydd rhaid i ni dalu, ond ein dadleuon yw y dylai nhw [Manhattan loft] gymryd cyfrifoldeb am elfen o'r gwaith cynnal a chadw."
Dywedodd y cynghorydd lleol, Sam Kurtz: "Nid yw hyn ddigon da ac mae wedi mynd ymlaen yn rhy hir.
"Mae'n achosi lot o bryder i bobl, sydd ofn defnyddio'r dŵr. Gobeithio nawr bod ffordd ymlaen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Awst 2018