Y Gogarth yn 'brif safle copr Prydain' yn yr Oes Efydd
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwil newydd wedi awgrymu mai gogledd Cymru oedd prif safle copr Prydain am dros ddwy ganrif yn ystod yr Oes Efydd.
Fe wnaeth gwyddonwyr o Brifysgol Lerpwl ganfod tystiolaeth o waith copr sylweddol yn digwydd ar Y Gogarth ger Llandudno tua 3,600 mlynedd yn ôl.
Roedd copr o'r ardal yn cael ei ddefnyddio i ffurfio offer ac arfau efydd oedd wedyn yn cael eu masnachu ar draws Ewrop i lefydd fel Ffrainc, yr Iseldiroedd, yr Almaen a Sweden.
Mae'r ymchwil, sydd wedi'i gyhoeddi yn y cyfnodolyn 'Antiquity', yn taflu goleuni newydd ar hanes mwyngloddio copr yn y rhan honno o arfordir y gogledd.
'Digwydd ar raddfa fawr'
Tan yn ddiweddar roedd haneswyr wedi credu mai gwaith ar raddfa gymharol fach oedd yn digwydd ar Y Gogarth.
Ond nawr mae gwyddonwyr yn credu mai dyma oedd prif ffynhonnell copr Prydain rhwng 1,600 a 1,400 CC, cyn i'r cyflenwad ddechrau edwino.
Roedd copr o'r Gogarth yn golygu bod cyflenwad cyson o'r metal ar gael ar ynysoedd Prydain ar adeg pan oedd yn elfen bwysig o greu efydd.
Fe wnaeth y gwyddonwyr gymryd samplau o'r copr ar Y Gogarth ac o safle smeltio cyfagos er mwyn creu 'proffil' o'r metal yn seiliedig ar ei nodweddion isotopig a'r amhureddau cemegol oedd ynddo.
"Fe wnaeth y canlyniadau syfrdanol ddatgelu metel arbennig oedd yn debyg iawn i'r math o fetel oedd yn gyffredin yng nghyflenwad metel Prydain am gyfnod o 200 mlynedd yn yr Oes Efydd," meddai Dr Alan Williams, un o awduron yr ymchwil.
"Yn syfrdanol, mae'r metel yma hefyd wedi ei ganfod mewn arteffactau efydd ar draws Ewrop, o Lydaw i'r Baltig.
"Mae'r gwasgariad eang yma'n awgrymu bod mwyngloddio wedi digwydd ar raddfa gymharol fawr [ar Y Gogarth], gyda chymuned mwyngloddio llawn amser.
"Mae amcangyfrifon daearegol yn awgrymu bod cannoedd o dunelli o gopr wedi eu cynhyrchu - digon i gynhyrchu miloedd o offer ac arfau efydd bob blwyddyn, a dros hanner miliwn o ddarnau dros gyfnod o 200 mlynedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2014