Owen Smith ddim am sefyll yn yr Etholiad Cyffredinol

  • Cyhoeddwyd
Owen Smith

Mae'r cyn ymgeisydd i arwain y Blaid Lafur, Owen Smith wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Dywedodd AS Pontypridd ei fod yn camu'n ôl "am resymau personol a gwleidyddol".

Mewn llythyr at Jeremy Corbyn, dywedodd Mr Smith y bu'n "anrhydedd mawr" i wasanaethu'r etholaeth.

Cafodd Mr Smith ei ddiswyddo o fainc blaen Llafur ar ôl iddo feirniadu trywydd Mr Corbyn mewn cysylltiad â Brexit.

Roedd Mr Smith ymhlith pedwar AS Llafur o Gymru a bleidleisiodd yn erbyn cynnal Etholiad Cyffredinol ar 12 Rhagfyr.

Methodd â disodli Mr Corbyn fel arweinydd y blaid yn 2016.

Cafodd ei benodi'n Ysgrifennydd Cysgodol Gogledd Iwerddon ond cafodd ei ddiswyddo fis Mawrth y llynedd ar ôl galw ar y blaid i gefnogi ail refferendwm.

Yn gynharach eleni, dywedodd Mr Smith bod e a "llawer o bobl" yn ystyried gadael y blaid Lafur oherwydd y safbwynt ynghylch Brexit.

Cafodd Mr Smith, oedd yn arfer gweithio fel newyddiadurwr gyda'r BBC, ei ethol yn AS Pontypridd yn 2010, gan olynu Kim Howells.