Llwyddiant dyfais dementia ymhlith rhai cleifion
- Cyhoeddwyd
Mae treialon dyfais sy'n gwella lles meddyliol pobl sydd â dementia wedi bod mor llwyddiannus fel bod tîm Prifysgol Met Caerdydd am iddi gael ei chynhyrchu'n fasnachol.
Yr HUG yw enw'r teclyn ac o'r tu allan mae'n debyg i degan meddal ond mae iddo galon sy'n curo ac adnodd sy'n medru chwarae cerddoriaeth a seiniau.
Mae'r ddyfais wedi'i threialu ymhlith cleifion sydd wedi cael dementia ers cryn amser ac mae profion cychwynnol yn dangos bod cleifion mewn cartref gofal yng Nghaerdydd yn fwy effro ac yn llai isel wedi iddynt dreulio amser yn defnyddio HUG.
Mae Margaret, mam Alison Webb, â dementia ers degawd ac yn cael gofal yng nghartref Sunrise yng Nghaerdydd.
Fe dreuliodd Margaret ei bywyd yn gweithio mewn banc gan godi ei merch Alison ar ei phen ei hun.
40,000 yn marw yng Nghymru
"Mae hi wedi bod yn anodd gweld mam yn llithro oddi arnom," meddai Alison. "Bob tro roeddwn yn ymweld â hi roeddwn fel petaem yn colli darn ohoni.
"Roedd hi'n gwenu yn llai aml ond wedi iddi fod yn dal HUG roedd ei hwyneb yn hapus ac roedd yn brofiad pleserus i'w gweld.
"Yr eisin ar y gacen yw bod hoff gerddoriaeth mam i'w cael ar HUG gan gynnwys Elvis, Tom Jones ac Abba."
Cafodd HUG ei gynllunio gan dîm dan arweiniad yr Athro Cathy Treadway a phan ofynnwyd i ofalwyr dynes o'r enw Thelma mewn cartref ym Mhort Talbot beth oedd hi ei angen, dywedodd mai'r unig beth oedd "cwtsh" a dyna sut yr enwyd y teclyn newydd.
Yn ôl yr Athro Treadway roedd agwedd Thelma wedi newid o fewn wythnos wedi iddi gael y teclyn - roedd hi wedi agor ei llygaid, roedd hi'n ymateb i drigolion eraill yn y cartref ac roedd hi'n cwympo llai.
Mae dementia yn enw ymbarél i ddisgrifio 100 o gyflyrau sy'n cynnwys Alzheimer's, ac mae'n un o brif achosion marwolaethau yng Nghymru a Lloegr.
Ar hyn o bryd mae 40,000 o bobl yn byw â dementia yng Nghymru a does dim gwella, er bod nifer o gyffuriau'n cael eu treialu.
'Hollol wych'
Dywedodd un o reolwyr cartref gofal Sunrise yng Nghaerdydd bod HUG yn ddyfais dda gan nad yw'n ymwthiol.
"Mae cleifion yn gallu eistedd a gwrando yn eu hamser eu hunain," meddai Danny Langhorn. "Unwaith maen nhw wedi dod yn gyfarwydd â HUG mae modd symud i'r cam nesaf o ofal.
"Dyw HUG ddim wedi cael yr un effaith ar bob un yn y cartref ond mae'n un o'r nifer o ffyrdd mae staff yn ceisio helpu dioddefwyr... ond mae dyfeiswyr Prifysgol Met Caerdydd wedi'u calonogi gymaint fel eu bod am i HUG gael ei gynhyrchu'n fasnachol."
Dywed Alison ei bod mor falch i weld ei mam yn hapus eto.
"Dwi'm yn gwybod beth sydd wedi digwydd ond mae'r ddyfais wedi dod â hi nôl," meddai. "Mae ei hadnabyddiaeth, ei gwenau a'i hapusrwydd fel petaent wedi dychwelyd a mae hynny'n hollol wych."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2018