Dyn 49 oed yn euog o drywanu ei gariad i farwolaeth

  • Cyhoeddwyd
Sammy-Lee LodwigFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Sammy-Lee Lodwig yn fflat y diffynnydd ar 23 Ebrill

Mae Llys Y Goron Abertawe wedi cael dyn lleol yn euog o lofruddiaeth ar ôl iddo drywanu ei gariad i farwolaeth.

Bu farw Sammy-Lee Lodwig, oedd yn 22 oed, yn fflat Jason Farrell yn Carlton Terrace yn ardal Mount Pleasant y ddinas ar 23 Ebrill.

Roedd Farrell, 49, wedi gwadu llofruddio ond yn cyfaddef i ddynladdiad, gan honni'r i'r rheithgor ei fod "yn ddryslyd" ar ôl i'r ddau gymryd cyffuriau gyda'i gilydd.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa nes cael ei ddedfrydu ddydd Gwener.

Cafwyd hyd i Miss Lodwig ag anafiadau i'w gwddf, talcen a'i bron.

Fe adawodd Farrell y tŷ cyn cael ei arestio gan heddlu arfog.

Cafwyd y diffynnydd hefyd yn euog o achosi niwed corfforol difrifol bwriadol i ddyn, Christopher Maher, yn y stryd.

Roedd yn credu mai Mr Maher oedd cariad newydd mam Miss Lodwig - oedd wedi bod mewn perthynas ei hun gyda'r diffynnydd yn y gorffennol.

Wedi'r dyfarniad, clywodd y llys bod gan Farrell record droseddol ers 1988, a bod y troseddau'n cynnwys anafu, bod ym meddiant arfau a chyflenwi cyffuriau.

Roedd yn erlyniad wedi dweud yn ystod yr achos ei fod "yn ddyn peryglus a threisgar".