Cyn-swyddog yn cyfaddef twyll Clwb Pêl-Droed Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
Yr OvalFfynhonnell y llun, Eric Jones/Geograph

Mae cyn-reolwr masnachol Clwb Pêl-droed Caernarfon wedi pledio'n euog i gyhuddiad o dwyll ar ôl cadw arian nawdd i'r clwb i'w hun.

Cyfaddefodd Tristram Lee, 36 oed ac o Langefni, ei fod wedi manteisio ar ei swydd a sicrhau £1,330 trwy dwyll rhwng Gorffennaf 2017 ac Ionawr 2018.

Cafodd ddedfryd o 26 wythnos o garchar wedi'i gohirio, gorchymyn i wneud 150 awr o waith cymunedol di-dâl a bydd yn rhaid talu'r holl arian yn ôl ynghyd â £200 mewn costau.

Daeth y twyll i'r amlwg wedi i'r clwb orfod canslo noson yng nghwmni'r cyn bêl-droediwr Paul Gascoigne, gan siomi cefnogwyr, am fod Lee heb dalu'r blaendal angenrheidiol.

'Torri'r ymddiriedaeth ynddo'

Roedd yr erlyniad yn honni bod Lee wedi cymryd mwy na £1,330 ond bod profi hynny'n amhosib.

Clywodd Llys Ynadon Caernarfon bod Lee'n cael ei gyflogi i sicrhau nawdd i'w clwb a'i fod yn derbyn 15% o'r swm oedd yn cael ei gasglu.

Roedd ganddo darged o tua £4,000 y mis ond fe wnaeth rheolwr y clwb sylweddoli bod llai o arian o lawer yn cyrraedd y coffrau nag oedd wedi gobeithio.

Ffynhonnell y llun, CPD Caernarfon

Dywedodd Diane Williams ar ran yr erlyniad fod yna "dystiolaeth gan gwmnïau oedd yn cadarnhau eu bod wedi cael anfonebau â manylion cyfrif personol y diffynnydd, nid cyfrif y clwb" a bod Lee wedi "torri'r ymddiriedaeth ynddo yn ddifrifol".

Dywedodd Richard Williams ar ran yr amddiffyn fod Lee yn ymddiheuro, a bod yna "drafferthion yn ei fywyd personol a'i waith" ar y pryd.

Ychwanegodd ei fod wedi dechrau goryfed, ond ei fod bellach yn rhoi trefn ar ei fywyd.

Clywodd y llys hefyd bod Lee wedi cael rhybudd gan yr heddlu yn 2005 yn ymwneud â dwyn, ac fe ddywedodd swyddog prawf ei fod hefyd yn arfer cymryd cocên ond ei fod wedi stopio gwneud hynny erbyn hyn.