Digwyddiad i gydnabod gwaith gwirfoddolwyr heddlu ifanc

  • Cyhoeddwyd
Gwirfoddolwyr ifanc yr heddlu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Abi, 17, (chwith) wedi bod yn gwirfoddoli gyda Heddlu'r De

Bydd gwaith cadetiaid yr heddlu a gwirfoddolwyr ifanc sy'n helpu i fynd i'r afael â throsedd yn cael ei gydnabod mewn digwyddiad yng Nghaerdydd.

Nod Confensiwn Plismona Ieuenctid Cymru Gyfan yw rhoi mwy o lais i bobl ifanc o ran plismona.

Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn sydd wedi trefnu'r digwyddiad.

Mae 497 o wirfoddolwyr ieuenctid yn helpu'r heddlu ar draws Cymru.

Bydd 62 yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar gyfer y digwyddiad, gydag oedrannau'r gwirfoddolwyr yn amrywio o 13 i 18.

Dywedodd un o'r gwirfoddolwyr ifanc, Abi Samuel: "Gobeithio pan fyddai'n 18 neu'n 19 fe allai wneud gradd ac ymuno â'r heddlu.

"Naill ai mynd yn PCSO neu wneud cais yn syth. Mae'n rhoi enw da i ti, edrych allan am bobl eraill."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cat Veasey bod y cynllun yn ffordd dda o gadw pobl ifanc allan o drwbl

Ychwanegodd Cat Veasey, 18, bod gwirfoddoli gyda'r heddlu yn "gyfle gwych".

"Mae'n rhwystr i blant ein hoedran ni rhag ymwneud gyda math anghywir o ymddygiad."

'Rôl bwysig y cadetiaid'

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys: "Mae'n ymwneud â rhoi stamp Cymreig ar waith y cadetiaid a chydnabod yr effaith maen nhw yn ei gael ar ein cymunedau.

"Mae gan gadetiaid rôl bwysig wrth fynd i'r afael â throseddau sy'n dod i'r amlwg, gan eu bod yn y sefyllfa orau i ymgysylltu â'u cyfoedion."

Bydd y gwirfoddolwyr hefyd yn mynd ar daith o amgylch y Senedd, yn cymryd rhan mewn gweithdai ac yn clywed areithiau gan nifer sy'n gweithio o fewn y maes.