Gwirfoddolwyr i ateb ymholiadau Heddlu Dyfed-Powys

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Robyn Mason y byddai'n "ddwl" i beidio manteisio ar wirfoddolwyr

Mae un o heddluoedd Cymru'n gofyn i wirfoddolwyr eu helpu i redeg gorsafoedd gwledig ac ymateb i ymholiadau gan y cyhoedd.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, fe fyddai'r gwirfoddolwyr yn cynorthwyo staff drwy ateb galwadau ffôn, monitro camerâu cylch cyfyng ac ymdrin ag eiddo coll mewn gorsafoedd gwledig, yn ogystal â dyletswyddau eraill.

Bwriad yr ymgyrch yn ôl yr heddlu ydy "atgyfnerthu ein perthynas gyda'n cymunedau" ac i roi "sgiliau newydd a phrofiad i wirfoddolwyr".

Ond maen nhw'n gwadu y byddan nhw'n cymryd lle swyddogion profiadol.

Disgrifiad o’r llun,

Byddai gorsaf Machynlleth yn un o'r rhai all fanteisio o waith gwirfoddolwyr

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Robyn Mason bod cadw swyddfeydd gwledig yn agored yn bwysig "fel bod ni'n fwy o ran o'r gymuned".

"Mae adnoddau gyda ni'n y swyddfeydd mawr, fel yn Aberystwyth.

"Ond be' 'y ni'n ei wneud yw edrych ar batrymau'r staff sydd gyda ni'n barod, bo' nhw'n gallu mynd mas i weithio'n y swyddfeydd mwy gwledig a bod y gwirfoddolwyr yma'n gallu gweithio hefo nhw."

'Y bobl iawn'

Mae'r heddlu'n dweud y byddan nhw'n rhoi hyfforddiant i'r gwirfoddolwyr, ond na fyddai disgwyl iddynt fynd i'r afael â materion sensitif neu beryglus.

"I unrhyw un sydd eisiau gwirfoddoli gyda ni, mae ishe iddyn nhw fynd drwy'r vetting checks a bo' ni'n gwneud yn siwr bod y bobl iawn yn gweithio gyda ni.

"Os fydde 'na unrhyw beth sensitif, yna byddan nhw ddim yn cael eu tynnu mewn i'r rhan yna o'r broses.

"Heddweision fydd hefyd yn gweithio yn y swyddfeydd fydd yn delio gyda hynny."

Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod eisoes wedi cael dros 30 o geisiadau gan bobl sydd eisiau gwirfoddoli.

Heddlu Dyfed-Powys

  • Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyfrifol am ardal sy'n ymestyn dros hanner wyneb Cymru, gyda phoblogaeth o dros 488,000;

  • Ei chyllideb ar gyfer 2018-19 ydy £107m;

  • Mae dros 100 o bobl eisoes yn gwirfoddoli gyda'r llu fel Cwnstabliaid Arbennig, cadetiaid, caplaniaid a swyddogion cymorth i ddioddefwyr;

  • Fel arfer mae Cwnstabliaid Arbennig yn gwirfoddoli am rhwng 16 a 25 awr y mis.

Fe ofynnodd i BBC Cymru Fyw i'r tri llu arall yng Nghymru a oedden nhw'n gofyn i wirfoddolwyr gynorthwyo gyda'u gwaith.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod ganddyn nhw nifer o gyfleoedd i wirfoddoli, ond nad oedden nhw'n cael gwirfoddolwyr ar y ddesg flaen.

Does dim cynlluniau gan heddluoedd Gwent na De Cymru i chwilio am wirfoddolwyr ar gyfer y gwaith yma chwaith.

Pobl 'eisiau helpu'

Ond mae'r Uwch-arolygydd Mason yn dweud ei fod yn credu "bod llawer o bobl yn y gymuned eisiau gwneud hyn".

"Mae gwirfoddoli'n yr heddlu wedi ehangu dros y blynyddoedd diwetha', ac mae pobl yn dweud wrthon ni bod nhw ishe helpu, a nawr gallan nhw wneud.

"Maen nhw'n gallu gweld shwt mae adnoddau'n gallu crebachu mewn llefydd gwledig, mae'r gorsafoedd heddlu yn rhywbeth mae pobl yn prowd iawn ohonyn nhw, ac maen nhw ishe gwneud yn siwr bod e'n rhan fyw o'r gymuned. "

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr Uwch-Arolygydd Robyn Mason, mae digon o adnoddau i'w cael mewn gorsafoedd mawr fel Aberystwyth ond bod angen edrych eto ar adnoddau rhai mwy gwledig

Ychwanegodd: "Mae adnoddau'n broblem i ni o hyd, a thrwy'r flwyddyn mae 'na wahanol demands, ond mae 'na lot o bobl mas yn ein cymunedau ni sydd â lot o sgiliau a doniau 'dy ni ddim yn tapio mewn iddyn nhw ar hyn o bryd.

"Bydde fe'n ddwl i ni beidio â gofyn...

"Mae hwn yn gweithio gyda beth ry' ni'n ei wneud yn barod, dyw e ddim yn cymryd lle unrhyw beth, ac mae'n gwneud synnwyr cyffredin i ofyn i bobl ein helpu ni, os ydyn nhw'r bobl iawn."

Ciplun o'r cownter

Treuliodd ein gohebydd gyfnod yng ngorsaf heddlu Aberystwyth, i weld y math o ymholiadau ddaeth i mewn:

Wrth gyrraedd y dderbynfa roedd myfyrwraig oedd yn poeni ei bod hi'n cael ei stelcio yn bwrw ei bol wrth y swyddog ar y ddesg flaen.

Roedd y swyddog yn gwrando ar ei phryderon ac yn ysgrifennu nodiadau.

Roedd 'na hen ddyn wedi bod ar goll ers y bore, ac roedd ei ŵyr wedi dod i'r orsaf i ofyn i'r heddlu chwilio amdano.

Cafodd y gŵr ifanc ei gymryd i swyddfa ymholiadau i gael disgrifiad llawn ohono, cyn gwneud apêl ar wefannau cymdeithasol.

Yn y cyfamser, daeth dyn i ofyn am help i gael gafael ar ei landlord. Roedd newydd ddod allan o'r carchar ei hun, a doedd dim syniad ganddo sut oedd e'n mynd i gael ei eiddo 'nôl o'r fflat lle roedd yn byw cyn cael ei garcharu.

Roedd y ddynes nesaf wrth y ddesg eisiau hawlio arian oedd wedi cael ei ddwyn oddi arni yn ôl, ac oedd bellach ym meddiant yr heddlu. Tra'r oedd hi yno, roedd hi hefyd yn awyddus i gwyno am bobl yn parcio mewn llefydd parcio i'r anabl y tu allan i'r orsaf.

Drwy gydol hyn i gyd fe wnaeth y swyddog wrth y ddesg flaen fynd i'r stafell gefn droeon i ymateb i ymholiadau gan aelodau eraill o staff, tra hefyd yn cadw golwg ar y mynd a'r dod yn y dderbynfa.