Nigel Owens wedi 'dyfarnu ei gêm Cwpan y Byd olaf'
- Cyhoeddwyd
Mae Nigel Owens wedi dweud ei fod wedi dyfarnu ei gêm olaf ym mhencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd.
Dywedodd ei fod yn gwybod wrth gael ei benodi ar gyfer y gêm gynderfynol rhwng Lloegr a Seland Newydd yr wythnos ddiwethaf mai honno fyddai ei gêm olaf yng nghanol y cae yn y gystadleuaeth.
"Fydda'i ddim o gwmpas yn 2023 felly hwn fydd Cwpan y Byd ola' ond ddim hwn fydd y cyfnod ola' o ddyfarnu," meddai wrth Post Cyntaf.
Owens fydd y pedwerydd swyddog yn y rownd derfynol ddydd Sadwrn rhwng Lloegr a De Affrica.
Dywedodd nad yw'n siomedig wedi i anaf i'w goes olygu na chafodd ei ystyried i fod ar y llinell neu yn y canol ar gyfer y gêm honno.
"'Swn i yn hollol fit i wneud y gêm, fi'n credu bydde [y dyfarnwr o Ffrainc] Jerome Garces wedi 'neud y gêm beth bynnag, ac yn gwbl haeddiannol," meddai.
"Mae e 'di dyfarnu'n dda yn Cwpan y Byd, mae 'di dyfarnu'n dda dros y blynyddoedd diwetha'.
"A fi'n credu, pan y'ch chi wedi dyfarnu rownd derfynol unwaith, dwi ddim yn credu ddylech chi neud e yr ail waith."
'Fodlon fy myd'
Y Cymro 48 oed o Fynyddcerrig wnaeth ddyfarnu rownd derfynol 2015 yn Twickenham, pan roedd Seland Newydd yn fuddugol yn erbyn Awstralia.
"Fy uchelgais i yn y Cwpan y Byd yma oedd dod mas yma a dyfarnu mor dda â gallen i, a bo' fi'n 'neud rownd gynderfynol - a dyna yn gwmws beth dwi 'di 'neud.
"Dwi'n gwbl fodlon fy myd."
Dywedodd ei fod wedi mwynhau pob un o'r chwe gêm y dyfarnodd yn Japan ond bod yna "ddau uchafbwynt" hyd yma, gan gynnwys "yr anrhydedd" o ddyfarnu'r gêm agoriadol rhwng y tîm cartref a Rwsia.
"Mae'r gêm agoriadol yn rhywbeth sbesial," meddai. "Mae'n anrhydedd i neud e, yn debyg iawn i rownd derfynol.
"Prin iawn yw'r dyfarnwyr sy'n cael y cyfle a'r anrhydedd o'i 'neud e."
Yr uchafbwynt arall, meddai, oedd y "gêm enfawr" pan gurodd Lloegr y Crysau Duon, a'r ffaith bod "pawb yn trafod y gêm, neb yn trafod y dyfarnwr, felly chi'n gw'bod bod chi 'di 'neud eich swydd".
Y dyfodol
Bydd Owens yn dyfarnu gêm Cymru yn erbyn y Barbariaid ddiwedd Tachwedd yn Stadiwm Principality, Caerdydd.
"Dwi'n mynd i ddyfarnu tan ddiwedd y tymor yn bendant ar y lefel ryngwladol, gobeithio," meddai.
"Dwi'n dal yn mwynhau fe... tra bo' fi dal yn 'neud fy ngore ar y cae 'na i'r chwaraewyr ac i'r gêm, dwi'n mynd i ddal i fwynhau i ddyfarnu.
"'Wy'n gobeithio fydda i'n dal yn dyfarnu yn y Chwe Gwlad - fyddai'n ffeindio mas o fewn yr wythnos neu ddwy nesa'.
"Wedyn gawn ni weld pan fydd y tymor yn dod i ben pryd bydd y penderfyniad... mai hwn fydd y tymor ola' neu falle'r tymor ar ôl hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2015