Cymru'n colli i Seland Newydd yng ngêm olaf Gatland
- Cyhoeddwyd
Daeth cyfnod Warren Gatland fel prif hyfforddwr Cymru i ben gyda cholled yn erbyn Seland Newydd yng ngornest olaf y ddwy wlad yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Japan.
Fe ddechreuodd Seland Newydd ar y droed flaen ac fe ddylen nhw fod wedi sgorio tri phwynt cyntaf y gêm wedi pedair munud, ond fe wnaeth cic Richie Mo'unga daro'r postyn o 22m.
Funud yn ddiweddarach daeth cais cyntaf y gêm wedi bas deallus gan Brodie Retallik ryddhau Joe Moody i ruthro'n rhydd i dirio.
Roedd trosiad Mo'unga'n llwyddiannus i wneud y sgôr yn 7-0.
Yn dilyn rhagor o bwysau fe ddyblodd y Crysau Duon eu mantais wedi 13 o funudau. Roedd yn gais rhwydd i Beauden Barrett ac unwaith eto Richie Mo'unga yn trosi.
Cais i Gymru
Llwyddodd Cymru i fynd pum metr o linell gais Seland Newydd ar ôl chwarter awr.
Wedi sawl cymal o bwyso fe groesodd Hallam Amos i sgorio ar yr asgell chwith yn dilyn pas gan Rhys Patchell.
Llwyddodd Patchell gyda'r trosiad i wneud y sgôr yn 14-7 wedi 20 munud.
Roedd Cymru nawr yn rheoli'r meddiant, yn chwarae rygbi o safon ac yn rhoi amddiffyn Seland Newydd dan bwysau drwy orfodi iddyn nhw droseddu.
Ychwanegodd Patchell dri phwynt rhwydd o dan y pyst gyda chic gosb i wneud y sgôr yn 14-10 wedi 26 munud.
Ond fe gafodd Cymru eu cosbi gydag wyth munud o'r hanner cyntaf yn weddill.
Ergyd i Gymru
Cafodd Ross Moriaty a Patchell eu gwthio'n ôl yn y ryc wrth i'r Crysau Duon adennill y meddiant ar linell 22 Cymru.
Ben Smith dderbyniodd y bas a rhedeg heibio pedwar o chwaraewyr Cymru cyn tirio. Roedd Mo'unga'n llwyddiannus gyda'i gic i ymestyn mantais Seland Newydd i 11 pwynt.
Yn symudiad olaf yr hanner cyntaf fe sgoriodd Ben Smith bedwerydd cais y Crysau Duon ar yr asgell dde.
O'r lein fe symudodd Seland Newydd y bêl i'r asgell ac fe ruthrodd Smith i dirio'n hawdd, a chyda throsiad Mo'unga daeth yr hanner cyntaf i ben gyda'r sgôr yn 28-10 i'r Crysau Duon.
Fe ddechreuodd yr ail hanner gyda Seland Newydd yn sgorio cais arall o fewn dwy funud.
Sonny Bill Williams wnaeth ddadlwytho'r bêl i Ryan Crotty i dirio dan y pyst. Fe giciodd Mo'unga ei bumed trosiad i wneud y sgôr yn 35-10 i'r Crysau Duon.
Fuodd bron iddyn nhw fynd ymhellach ar y blaen pan diriodd Ben Smith am hat-tric, ond fe benderfynodd y dyfarnwr, Wayne Barnes fod y bêl wedi mynd ymlaen.
Cyfnod o bwyso
Daeth cyfnod da i Gymru wedi 53 o funudau, ond fe wnaeth taclo anhygoel gan y Crysau Duon atal Shingler, Tipuric a Biggar rhag camu ymhellach na lein 22 Seland Newydd.
Yn haeddiannol wedi cyfnod o bwyso amddiffyn y Crysau Duon, daeth ail gais Cymru gyda Josh Adams yn croesi yn dilyn gwaith da gan Ross Moriaty a Jonathan Davies.
Dyma seithfed cais Adams yn y gystadleuaeth, ac o ganlyniad mae'n curo record Shane Williams o 2007. Ross Moriarty y tro hwn yn trosi a'r sgôr yn 35-17 wedi awr o chwarae.
Daeth chweched cais Seland Newydd gyda phum munud yn weddill o'r gêm - sgrym i'r Crysau Duon, a'r bêl yn cael ei phasio i ddwylo Mo'unga ac roedd llwybr clir iddo dirio.
Methodd gyda'i gic ond doedd dim ffordd nôl i Gymru.
Daeth y chwiban olaf a chyfnod Warren Gatland fel Prif Hyfforddwr Cymru i ben a chadarnhad fod Cymru'n gorffen yn y pedwerydd safle yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Japan.
Mamwlad Gatland, Seland Newydd felly gipiodd y fedal efydd ar ôl ennill yn gyfforddus o 40-17.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2019