Llofruddiaeth Sammy-Lee Lodwig: Dedfryd oes i Jason Farrell
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei ddedfrydu i garchar am oes am drywanu ei gariad i farwolaeth yn Abertawe.
Roedd Jason Farrell, 49, wedi dweud nad oedd yn cofio lladd Sammy-Lee Lodwig, 22, ond roedd wedi cyfaddef ei dynladdiad.
Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher, cafwyd Farrell yn euog o'i llofruddiaeth yn ei fflat ym mis Ebrill.
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y barnwr ei fod yn sicr bod Farrell "wedi bwriadu" lladd Ms Lodwig mewn ymosodiad "milain".
'Ymosodiad ffyrnig'
Clywodd yr achos bod Ms Lodwig wedi ei chanfod ag anafiadau i'w gwddf, talcen a'i bron.
Roedd Farrell wedi dweud bod y ddau wedi bod yn cymryd cyffuriau ar noson y digwyddiad ac nad oedd yn cofio ymosod ar ei gariad gyda chyllell.
Ond ar ôl cael ei arestio roedd Farrell wedi cyfaddef yr hyn a wnaeth mewn datganiad ysgrifenedig, gan ddweud yr oedd wedi ei thrywanu yn ei hwyneb a'u gwddf.
Dywedodd y barnwr, Mr Ustus Lewis, bod ganddo ddim amheuaeth bod Farrell wedi bwriadu lladd Ms Lodwig, a bod "elfen sylweddol o gynllunio".
"Fe wnaethoch chi ei gagio hi. Roedd hwn yn ymosodiad ffyrnig," meddai.
"Mae'n rhaid ei bod hi'n ymwybodol ac wedi dioddef o'i hanafiadau cyn iddi farw."
26 mlynedd
Ychwanegodd: "Roeddech chi wedi blino gyda'r berthynas, roeddech chi am gael gwared ar Sammy-Lee Lodwig ac fe wnaethoch chi hynny, drwy ei lladd."
Dywedodd hefyd nad oedd Farrell wedi dangos "gwir edifeirwch" am yr hyn a wnaeth.
Bydd Farrell dan glo am o leiaf 26 o flynyddoedd am lofruddiaeth Ms Lodwig.
Cafodd ddedfryd o 14 mlynedd am anafu Christopher Maher gyda'r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol, a fydd yn cyd-redeg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2019